Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Ar gyfer bwrw ymlaen â'r model newydd o gyflogaeth gan awdurdodau lleol, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y byddwn ni'n sefydlu platfform technolegol newydd ar gyfer archebu a fydd ar gael i awdurdodau lleol, ysgolion a staff cyflenwi o fis Medi 2023 ymlaen. Fe fydd y model yn cynnig llwybr ychwanegol i ysgolion ymgysylltu â staff cyflenwi a chynnig dewis i staff cymorth addysgu cyflenwi ac athrawon cyflenwi o ran sut y cânt eu cyflogi. Mae ymarfer caffael ar y gweill ar hyn o bryd, gyda'r contract i'w ddyfarnu yn nhymor y gwanwyn, a gweithrediad bob yn dipyn i ddilyn ar draws awdurdodau lleol o ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf. Fe fydd fy swyddogion i'n parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn y misoedd nesaf trwy ymgynghori ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid priodol. Ond ar y lleiaf, fe fydd y platfform yn galluogi staff cyflenwi i gofrestru eu hunain i weithio ac yn galluogi ysgolion i archebu athrawon cyflenwi yn uniongyrchol ar-lein.
Er y bydd llawer o fanylion o ran gweithrediad ymarferol y platfform yn dibynnu ar y darparwr llwyddiannus a'r system sydd ganddyn nhw ar waith, fe fydd athrawon cyflenwi yn gallu gweithio ar draws yr awdurdodau lleol ac yn gallu gweithio drwy asiantaethau pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny. Ni fydd y system hon yn cyflogi athrawon cyflenwi ei hun yn uniongyrchol; system fydd hon sy'n cael ei chynnal gan ei defnyddwyr a'i chefnogi gan bob sefydliad sy'n ei defnyddio hi. Felly, i sicrhau y bydd gan athrawon cyflenwi hawl i'r telerau statudol, gan gynnwys cynllun pensiwn athrawon, mae'n rhaid i'r platfform gysylltu â darparwr sector cyhoeddus. Mae trafodaethau yn parhau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â threfniadau i gefnogi elfen cyflog a phensiynau'r platfform, ac rwy'n rhagweld y bydd yr elfen bwysig hon o'r gwaith yn cael ei chytuno arni yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ynghyd â'r platfform, bydd y fframwaith GCC ar gael i ysgolion, staff cyflenwi ac awdurdodau lleol. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a gafodd ei wneud o ran y gwelliannau sydd wedi dod yn sgil y fframwaith. Rwyf i wedi rhoi ystyriaeth lawn i sut y gellir atgyfnerthu'r trefniadau cyfredol cyn y cytundeb nesaf, a fydd yn dechrau o fis Medi 2023, ochr yn ochr â'r platfform archebu. Fe fydd y fframwaith newydd yn cynnwys yr un gofynion â'r cytundeb presennol. Yn ogystal â hynny, fe ofynnir i asiantaethau ddangos sut y gallan nhw wella eu cynnig dysgu proffesiynol, ac ymgorffori'r hawl cenedlaethol i ddysgu proffesiynol yn nhelerau eu cyflogaeth nhw.
Caiff yr holl asiantaethau cyflogaeth eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Safonau'r Asiantaeth Gyflogaeth. Er nad yw'r fframwaith yn statudol, yn rhan o'r cytundeb newydd fe fydd yr arolygiaeth yn ystyried rhai agweddau ar dermau'r fframwaith wrth arolygu asiantaethau fframwaith, ac fe rennir y canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru. Fe fydd yn ofynnol i'r asiantaethau ffurfio partneriaeth â JobsAware hefyd ac arddangos eu logo ar slipiau cyflog i hyrwyddo arferion gweithio diogel a theg a chyfeirio eu gweithwyr at ganllawiau cyflogaeth. Amcan y mesurau hyn yw sicrhau cydymffurfiaeth yn y meysydd hynny nad ydyn nhw o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru a sicrhau bod gweithwyr asiantaeth yn gallu cael arweiniad a chefnogaeth o ran eu cyflogaeth.
Mae'r maes terfynol hwn o waith yn allweddol i'r diwygiadau hyn ac fe fydd yn sicrhau bod agwedd waith teg yr ymrwymiadau wedi'u hystyried yn llawn. Cafodd y cyfrifoldeb am gyflogau ac amodau athrawon ei ddatganoli yn 2018, ac roedd hynny'n gyfle i ystyried a allai cyflog, telerau ac amodau gwahanol fod yn berthnasol i swyddi a chyfrifoldebau amrywiol athrawon ac athrawon cyflenwi o fewn y system. Wrth i gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru gyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru o ran tâl ac amodau athrawon, fe ofynnwyd iddo gynnwys yr agwedd bwysig hon hefyd yn rhan o'i adolygiad strategol ehangach sy'n mynd rhagddo eleni. Fe fydd yr adroddiad a'r argymhellion gan gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru yn cael eu hystyried yn llawn, ac unrhyw newidiadau a gyflwynir i'r telerau ac amodau statudol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn faes cymhleth y mae'n rhaid cydbwyso anghenion pawb o fewn y system ysgolion ynddo, gan gynnwys y dysgwyr a'r gweithlu ehangach mewn ysgolion. Yn fwy na dim, rwy'n ymwybodol bod yn rhaid i unrhyw fodel cyflogaeth cyflenwi newydd ddarparu ar gyfer athrawon cyflenwi, a bod yn gynaliadwy i ysgolion ei ddefnyddio a pheidio ag ychwanegu at lwyth gwaith staff ysgol. Rwy'n gobeithio bod y gwaith a amlinellais i'n rhoi sicrwydd i'r rhai sy'n ymgymryd â swyddi cyflenwi o ymrwymiad i newid yn y maes hwn. Mae'r adborth gan ein rhanddeiliaid allweddol ni wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer deall maint y diwygiadau sy'n angenrheidiol, ac o'r angen am welliannau ar draws ystod o feysydd ar gyfer sicrhau bod model cyflogaeth newydd yn addas i'w ddiben. Er bod gwaith eto i'w wneud, rwy'n hyderus y bydd y mesurau hyn yn arwain at welliant cynaliadwy ar draws y system addysg yn ei chyfanrwydd.