Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi am ddechrau drwy achub ar y cyfle yma i ddiolch i'n hathrawon cyflenwi unwaith eto am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac yn benodol am y cymorth hanfodol a roddon nhw i ysgolion yn ystod y pandemig—cyfnod a oedd, wrth gwrs, yn ansicr i bawb.
Rŷn ni'n gwybod bod athrawon cyflenwi a staff cymorth addysgu yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi ein pobl ifanc. Mae sawl adolygiad annibynnol wedi tynnu sylw at yr angen i wella telerau ac amodau a threfniadau gwaith athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi. Rŷn ni wedi gwneud cynnydd da dros y blynyddoedd diwethaf. Serch hynny, mae'n amlwg i mi bod yna fwy i'w wneud i sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu gwobrwyo'n briodol, bod mwy o ddewis i'n holl staff cyflenwi o ran sut y maen nhw'n cael eu cyflogi, a bod y gefnogaeth a'r cyfleodd dysgu proffesiynol sy'n ofynnol ar gael iddyn nhw er mwyn cyflawni eu rolau yn effeithiol.
Yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, rŷn ni wedi ymrwymo i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, â gwaith teg wrth wraidd y model hwnnw. Heddiw, dwi am nodi sut y byddwn ni'n cyflawni'r ymrwymiadau ac yn cyflwyno diwygiadau i'r system addysg y mae eu hangen yn fawr. Er mwyn gofalu bod pob elfen o'r ymrwymiad yn cael sylw, rwyf wedi dynodi bod angen dull gweithredu holistaidd, gan ganolbwyntio ar ddiwygio mewn tri phrif faes, sef model cyflogaeth newydd i awdurdodau lleol, gwelliannau pellach i ddarpariaeth asiantaethau, a chyflog ac amodau athrawon cyflenwi sydd o fewn cwmpas y telerau statudol.
Mae penaethiaid a chyrff llywodraethu yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i staffio eu hysgolion a pha fath o gyflenwi sy'n bodloni eu gofynion orau. Gall ysgolion recriwtio staff cyflenwi yn uniongyrchol, drwy eu hawdurdod lleol, neu drwy asiantaeth gyflenwi. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan athrawon cyflenwi ynghylch cyflogaeth drwy asiantaethau preifat, sefydlwyd fframwaith asiantaethau cyflenwi y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2019, gan arwain at well cyflog ac amodau i staff asiantaethau, tryloywder ynghylch ffioedd, a mwy o reoleiddio ar asiantaethau.