Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch hefyd i'r Aelod dynodedig—diolch i'r ddau ohonoch chi am eich gwaith ar hyn. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ategu diolch y Gweinidog i'r athrawon llanw hyn, sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig. Dŷn ni wedi gweld, fel roeddech chi'n sôn, yn ystod COVID, wrth gwrs, yr heriau parhaus o ran hynny, pa mor allweddol maen nhw wedi bod i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg. Ac yn aml, maen nhw'n bobl brofiadol eithriadol—nifer o bobl sydd wedi ymddeol yn mynd nôl, ac ati, ac efo profiad mawr o allu rhoi nôl, ac ati, ac ategu profiad ein plant a'n pobl ifanc ni.
Dwi'n falch iawn ein bod ni, drwy'r cytundeb cydweithio, yn gytûn o ran na ddylid cynnal gwasanaeth er elw preifat, ac wrth gwrs, dydyn ni ddim yn mynd mor bell â hynny heddiw, ond yn sicr, mae hwn yn gam pwysig iawn tuag at hynny. Oherwydd yn sicr, dŷn ni wedi gweld bod asiantaethau preifat yn gallu gwneud elw mawr, ar draul, wedyn, telerau gwaith teg, ac yn sicr mae i'w groesawu ein bod ni'n mynd i'r afael â hynny.
Dŷn ni eisoes wedi bod yn trafod, jest o ran sut bydd pobl yn ymwybodol o'r system, a sut y byddwn ni'n annog. Ac mae'r cwestiwn oedd gen i, o ran yr ymgyrch hyrwyddo, i bobl fod yn ymwybodol bod y datblygiad yma'n dod, oherwydd, yn anffodus, dydy pawb ddim yn gwylio Senedd.tv, a ddim wastad yn edrych ar bob datganiad sy'n dod allan—dwi'n gwybod bod hynny'n siom aruthrol i ni i gyd. [Chwerthin.] Ond o ran sicrhau, wedyn, bod y rhai sydd angen gwybod yn mynd i'w galluogi gwybod am y system yma, pa gyfathrebiad sy'n mynd i fod, i sicrhau bod yr opsiwn yma a'r llwyfan newydd yma ar gael iddyn nhw, yn hytrach nag aros efo asiantaethau? A sut y byddwn ni wedyn yn eu hannog nhw, o ran athrawon llanw a chymorthyddion, i sicrhau eu bod nhw efo'r sicrwydd yn y system, o ran eu bod nhw ddim yn mynd i golli allan ar waith, ac ati—bod hon yn system sy'n mynd i fod yn golygu bod y cyfleoedd yna, a'u bod nhw ddim yn colli allan ar unrhyw waith?
Dwi'n sylwi o ran y datganiad hefyd, bod yna lawer o bethau sydd dal angen eu gweithio allan. Roeddech chi'n sôn am y gwaith efo'r WLGA, a ballu. Yn sicr, mae'n allweddol bod llwyfan newydd yn gysylltiedig efo darparwr sector cyhoeddus, efo'r telerau a phensiwn, ac ati. Felly, dwi'n meddwl mai un o'r pethau—. Yn amlwg rwy'n croesawu'r camau hyn, yn edrych ymlaen at pan fydd yna fwy o wybodaeth ar gael, ac yn gwerthfawrogi hefyd eich bod chi wedi amlinellu amserlen ar gyfer yr adolygiad, o ran edrych ar delerau a thâl athrawon llanw. Felly, ie, croesawu, ond o ran yr ochr hyrwyddo, os fedrwch chi roi ychydig o eglurder o ran hynny. Diolch.