Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch am y cwestiynau yna. Mae yna lawer ohonyn nhw, ac fe wnaf fy ngorau i'w hateb, ond rwy'n croesawu yn gynnes ddatganiad Natasha Asghar ei bod yn derbyn rôl masnachfreinio ac yn gofyn sut rydym yn ei gwneud yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn gyflawnadwy, ac mae hyn, rwy'n credu, wrth wraidd y peth, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod angen i ni ddatgysylltu sut rydych chi'n gwneud y system yn well ac yna'r cwestiwn o sut mae tyfu'r system a sut rydym ni'n rhedeg gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y rheiny'n ddau gwestiwn cysylltiedig ond ar wahân. A bydd yr olaf yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael, a rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau, pan fyddant yn gweld y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ein bod yn ei chael hi'n anodd iawn cyflawni ein huchelgeisiau trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd, i bob pwrpas, y toriad sylweddol i'n cyllideb, ac mae hynny'n gyfyngiad gwirioneddol i ni. Felly, rwy'n credu y bydd y system yn gwella faint o arian rydym ni eisoes yn ei wario trwy ei wneud yn fwy strategol ac yn llai darniog, ond bydd y cwestiwn o sut rydym yn cyflwyno hynny ar raddfa fwy mewn pryd yn dibynnu ar y gyllideb a'r flaenoriaeth y mae'r Senedd hon yn barod i'w rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus. Roedd y cwestiwn yn ymwneud â sut yr ydym yn cadw llwybrau amhroffidiol ond sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, ac mae hynny'n rhan hanfodol o'r angen am y model hwn. Oherwydd beth mae'r model hwn yn ei ganiatáu yw inni gynllunio ar sail ranbarthol, neu ardal. Mae i'w benderfynu beth yw'r ôl troed. Gellid ei rannu'n unedau llai. Gellid ei wneud ar sail cyd-bwyllgor corfforedig. Mae hynny i'w benderfynu. Ond o fewn hynny byddwn yn gallu croes-gymorthdalu llwybrau o'r rhai sy'n broffidiol yn fasnachol, a rhoi'r elw mewn llwybrau llai proffidiol, ond rhai sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, fel y mae Natasha Asghar yn ei ofyn. Felly, rwy'n credu mai dyna graidd y dull yma. Dyna pam mae'r dull hwn mor bwysig, oherwydd mae'n caniatáu i ni wneud hynny, tra ei bod hi'n anghyfreithlon ar hyn o bryd i wneud hynny, ac mae hynny'n un o wyrdroadau'r system wedi'i phreifateiddio yr ydym ni'n byw gyda hi.
Yn yr un modd, sut mae cysylltu ag ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus allweddol? Yr ymarfer y mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd drwyddo nawr gydag awdurdodau lleol—wedi dechrau eisoes yn Ynys Môn a Gwynedd ac yn gweithio drwyddo—yw eistedd i lawr gyda'u harbenigwyr lleol a mapio lle dylai rhwydweithiau'r llwybrau fynd, beth yw'r elfennau allweddol hyn sy'n sbarduno taith y dylen nhw gysylltu â nhw, a sicrhau bod y llwybrau hynny wedyn yn rhan o'r trefniadau tendro masnachfreinio. Felly, mae'n ein galluogi i ymgymryd â dull strategol, ardal gyfan, unwaith eto, yn wahanol i'r system bresennol lle mae ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân yn cael ei wasanaethu'n wael iawn gan lwybrau bysiau. Felly, ni fyddai hynny'n digwydd o dan y system hon. Yn yr un modd, mewn ardaloedd gwledig, ac rwyf wedi bod yn cael cyfres o gyfarfodydd gydag awdurdodau lleol o ardaloedd gwledig ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i newid dulliau teithio yn ymarferol ac yn realistig mewn ardaloedd gwledig, ac mae nifer o bethau rydym ni wedi'u nodi y gallwn ni eu gwneud. Ond mae bod â gwasanaethau bws rheolaidd—. Oherwydd, eto, mater o ddewis yw hyn. Mewn rhannau o gefn gwlad yr Almaen mae ganddyn nhw wasanaeth bws bob awr i bob pentref. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y gellid ei wneud, a gallem ni wneud hynny yng Nghymru, os dyna yw'r flaenoriaeth a osodwyd gennym ac os ydym yn neilltuo cyllid ar gyfer hynny. Yn yr Almaen maen nhw'n codi treth ranbarthol ar fusnesau i dalu am hynny, er enghraifft. Felly, mae dadl i'w chael ynghylch sut rydym ni'n ei wneud, ond yn sicr mae modd gwneud hynny.
O ran y cerdyn teithio Cymru gyfan, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hynny'n ddyhead rydym ni'n ei rannu, a bydd hyn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae rhyngweithrededd tocynnau rhwng gwahanol ddulliau o deithio mewn gwahanol rannau o Gymru yn rhywbeth mawr y byddwn ni'n gallu ei wneud o dan y ddeddfwriaeth.
I bwy fydd y bwrdd, y bwrdd goruchwylio, yn atebol? Wel, bydd yn cyfuno gwahanol elfennau. Felly, rydym ni yn sicr eisiau cadw atebolrwydd lleol. Felly, bydd cynghorau lleol yn dal i fod yn atebol i'w pleidleiswyr ac i aelodau eu ward am y pethau y mae'n orau i gynghorau lleol fod yn gyfrifol amdanyn nhw—felly, safleoedd bysiau lleol, llwybrau ac ati. Ar y lefel ranbarthol bydd gennym y strwythur cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd â'i llwybrau atebolrwydd ei hun, ac yna, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn atebol i'r Senedd.
Ac yn olaf, mae bysiau trydan yn gwbl hanfodol ar gyfer yr agenda newid dulliau teithio, yn ogystal â chyrraedd ein targedau carbon, lle mae gennym dargedau i leihau'r 50 y cant o gerbydau sy'n llygru fwyaf erbyn diwedd y degawd. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i fod yn allweddol i'r system fasnachfreinio a'r amodau a osodir gennym ar gyfer dyfarnu'r contractau.