5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:52, 6 Rhagfyr 2022

Diolch, Gweinidog. Mae gwasanaethau bws yn fodd angenrheidiol o deithio ar gyfer pobl dros Gymru gyfan, ond y rheswm rŷn ni'n trafod hyn heddiw, yn amlwg, ydy'r angen am ddiwygio'r system. Mae llai a llai o bobl yn penderfynu defnyddio gwasanaethau bws, sy'n rhoi'r system dan straen. Dŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma, dwi'n meddwl, rhai o'r rhesymau pam mae pobl yn llai tebygol, efallai, o ddefnyddio gwasanaethau bws—newidiadau mewn ymddygiad, fel siopa ar-lein; gormod o geir ar yr hewlydd; COVID; a nifer o resymau eraill—ond, fel dŷch chi wedi bod yn gosod mas, Ddirprwy Weinidog, mae bysys yn gwneud gwaith hollol angenrheidiol. Maen nhw'n cynnig ffordd amgen o deithio i bobl sydd ddim gyda char, ac maen nhw, wrth gwrs, hefyd cymaint gwell ar gyfer yr amgylchfyd. Fel mae'n sefyll, mae tua 14 y cant o allyriadau carbon Cymru yn deillio o drafnidiaeth. Dwi'n siŵr byddwch chi'n fwy nag ymwybodol o'r ffigurau yma, felly mae gwir angen gweld newid syfrdanol yma. Dwi wir yn croesawu'r ffaith bod newid syfrdanol yn cael ei wthio fan hyn.

Beth buaswn i eisiau gwybod gan y Gweinidog—. Dŷch chi wedi dweud lot o ran beth yw eich gwelediad chi, eich vision chi, ar gyfer trydaneiddio bysys dros Gymru. Dŷch chi'n dweud eich bod chi gwneud y peth iawn i'w wneud, y peth mwyaf hawdd i'w wneud. Ife dyna'r ffordd fyddech chi'n crynhoi eich gwelediad chi ar gyfer y system yma i gyd, yn enwedig, efallai, mewn ffordd fyddai pobl yn ei ddeall ac yn ei gefnogi, i geisio cael pobl i gytuno gyda'r angen am newid?

Rhywbeth arall buaswn i eisiau mynd i'r afael ag e ydy tlodi trafnidiaeth. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi darganfod bod 13 y cant o dai Cymru yn dai sydd heb fynediad at gar, a bod 25 y cant o'r bobl sy'n defnyddio bysys yn byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd hir dymor. Mae mynediad at drafnidiaeth cyhoeddus ar gyfer pobl sy'n wynebu anawsterau fel yna yn hollbwysig.

A fyddech chi, Weinidog, yn gallu gosod mas fel bydd unrhyw ddiwygiadau—ym mha ffyrdd bydd unrhyw ddiwygiadau—yn gwella pa mor fforddiadwy ydy bysys, a hefyd pa mor hygyrch ydyn nhw? Rwy wedi codi o'r blaen fy mhryderon am wella pa mor saff mae menywod yn teimlo, nid yn unig ar drafnidiaeth cyhoeddus, ond hefyd wrth gyrraedd y bysys neu'r trenau hefyd, yn enwedig gyda'r nos. Buaswn i'n croesawu clywed gennych chi ar hwnna.

Ac yn olaf, dydy'r system drafnidiaeth yng Nghymru ddim wedi ei chyd-gysylltu yn ddigonol. Mae hwn wedi codi yn barod y prynhawn yma; rŷn ni i gyd yn gwybod hwnna. Yn rhy aml, dydy ffyrdd cerdded, seiclo a gwasanaethau hanfodol fel ysgolion ac ysbytai, fel roeddech chi newydd fod yn trafod gyda Natasha Asghar, ddim wedi'u cysylltu'n ddigonol gyda'r system drafnidiaeth. Mae angen i hyn oll weithio o gwmpas realiti bywydau pobl. Beth ydych chi, Weinidog, yn mynd i'w wneud i ddelio nid yn unig gyda hynny ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu ceisio cael y newid ymddygiad i gyd-fynd gyda'r newidiadau strwythurol hyn, achos maen nhw angen mynd law yn llaw? Rwy'n gwybod dyna un o'r sialensiau mwyaf fydd gennych chi. Diolch.