Grŵp 1: Ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 11, 39, 12, 40, 13, 14, 1)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:24, 6 Rhagfyr 2022

Y grŵp cyntaf o welliannau heddiw yw'r grŵp sy'n ymwneud ag ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig. Mae gwelliannau 39 a 40, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, yn union yr un fath â gwelliannau 11 a 12 a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders. Cafodd y gwelliannau gan y ddau Aelod eu cyflwyno ar yr un prynhawn ac er eu bod yr union yr un fath, roeddent yn dderbyniadwy ar yr adeg y'u cyflwynwyd. Fodd bynnag, ni fyddai'n dderbyniol i ystyried a phleidleisio ar welliannau sydd yn union yr un fath ddwywaith; felly, rwyf wedi penderfynu peidio â dethol gwelliannau 39 a 40 a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, oherwydd y cyflwynwyd y rhain ar ôl y gwelliannau a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders.