– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Y grŵp cyntaf o welliannau heddiw yw'r grŵp sy'n ymwneud ag ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig. Mae gwelliannau 39 a 40, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, yn union yr un fath â gwelliannau 11 a 12 a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders. Cafodd y gwelliannau gan y ddau Aelod eu cyflwyno ar yr un prynhawn ac er eu bod yr union yr un fath, roeddent yn dderbyniadwy ar yr adeg y'u cyflwynwyd. Fodd bynnag, ni fyddai'n dderbyniol i ystyried a phleidleisio ar welliannau sydd yn union yr un fath ddwywaith; felly, rwyf wedi penderfynu peidio â dethol gwelliannau 39 a 40 a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, oherwydd y cyflwynwyd y rhain ar ôl y gwelliannau a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders.
Gan symud ymlaen ar hynny, gwelliant 11 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant hynny a'r gwelliannau eraill.
Diolch, Llywydd. Am ddiwrnod gwych, mewn gwirionedd, i fod yn gweithio ar ddeddfwriaeth sy'n dod drwy'r lle hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dymuno i hon gael ei dwyn ymlaen, ac mewn gwirionedd mae wedi bod yn eithaf da i weithio gyda'r Gweinidog o ran rhai o'r gwelliannau yr wyf yn eu cyflwyno. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Beth Taylor, ymchwilydd sy'n gweithio yma, sydd wedi fy helpu'n fawr gyda hyn, a diolch i holl glercod y pwyllgor a phawb arall sydd wedi gweithio i sicrhau y gellir dwyn y Bil hwn ymlaen. Felly, diolch yn fawr, Llywydd. Fel y dywedoch chi, byddaf yn siarad am welliannau 11, 39, 12, 40, 13, 14 ac 1.
Rwyf wedi cyflwyno gwelliant 11 i sicrhau bod diffiniad y Bil o 'untro' yn cyd-fynd â deddfwriaeth briodol Llywodraethau'r DU a'r Alban. Bydd y gwelliant hwn yn rhoi'r geiriau 'ei ddyfeisio' yn y diffiniad ochr yn ochr â 'ei ddylunio' ac 'ei weithgynhyrchu', sydd eisoes wedi'u gosod yn y diffiniad. Fe wnes i gyflwyno hyn yn wreiddiol yn ystod Cyfnod 2. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno ag ymateb y Gweinidog, ac felly byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn ystod Cyfnod 2. Mae rhanddeiliaid wedi ei gwneud hi'n glir o'r cychwyn bod angen i ddiffiniadau fod yn gyson â deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ym Mhrydain Fawr. Fel arall, yn syml, mae perygl o ddryswch a chamddehongli. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog y byddai'r effaith ymarferol yn cael ei darparu'n fwy effeithiol drwy ddefnyddio'r diffiniad y mae wedi'i ddewis yn hytrach na defnyddio diffiniadau sy'n gyson â deddfwriaeth bresennol. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu esbonio hyn ymhellach ac egluro sut y byddai diffiniad cyson yn niweidiol i effaith ymarferol y Bil. Beth yng nghyd-destun Cymru sy'n gwneud diffiniad gwahanol yn angenrheidiol?
Mae gwelliant 12, a gyflwynais, yn ceisio gwneud yr un peth â gwelliant 11. Hoffwn ddiolch i Delyth am gyflwyno'r un gwelliannau. Fel maen nhw'n dweud, tebyg meddwl pob doeth. Ni wnaf siarad ar ei rhan hi.
Byddai gwelliant 13 yn newid y diffiniad o 'blastig' i'r hyn a ddefnyddir gan gyfarwyddeb plastig untro yr Undeb Ewropeaidd. Eto, mae diffiniadau cyson yn bwysig iawn. Mae'r diffiniad hwn o 'blastig' yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU yn ei deddfwriaeth sy'n gwahardd gwellt plastig, ffyn cotwm a throellwyr diodydd. Fe'i defnyddir hefyd gan Lywodraeth yr Alban yn ei deddfwriaeth sy'n gwahardd cynhyrchion plastig untro, felly fe wnaf i ofyn yr un cwestiwn i'r Gweinidog—a wnaiff hi egluro pam y mae defnyddio diffiniadau gwahanol yn well i Gymru. Onid yw hyn yn creu risg o gamddehongli diangen?
Fe wnes i hefyd gyflwyno gwelliant 14, a gyflwynais o ganlyniad i welliant 13. Byddai'r gwelliant hwn yn diwygio is-adran (5) i ddileu cyfeiriad at bwyntiau (a) a (b) oherwydd y newid i'r diffiniad o 'blastig'. Ni wnaf siarad am welliannau 39 a 40 gan fy mod i wedi cael gwybod eisoes na fydd y Llywydd yn cyflwyno'r rhain. Fodd bynnag, i fod yn glir, mae'r gwelliannau hyn yr un fath â gwelliannau 11 a 12.
Mae gwelliant 1, a gyflwynwyd gan y Gweinidog, yn symleiddio adran 2(1)(b) i fynd i'r afael ag amwysedd posibl wrth ddehongli a fyddai'n anghyson â'r polisi. Mae'n ceisio hepgor darpariaethau nad ydynt bellach yn cyfateb yn llawn â'r darpariaethau yn yr Atodlen a dileu unrhyw amheuaeth ynghylch cwmpas pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 3. Diolch.
Mae'n benbleth ddirfodol—rwyf eisiau siarad am welliannau nad ydyn nhw wedi eu dewis, felly fe siaradaf am welliannau 11 a 12, a oedd, fel sydd wedi ei ailadrodd, yn union yr un fath o ran cwmpas. Janet, roeddem ni mewn ras ac nid oeddem yn sylweddoli ein bod ni yn y ras honno, ond da iawn chi am eu cyflwyno ychydig cyn i mi wneud. Ni wnaf i ailadrodd yn hirwyntog eto y dadleuon ar y rhain. Yr un oedd fy mwriad gyda'r gwelliannau hyn—sef sicrhau bod 'untro' yn cwmpasu pob senario bosibl, ac y byddai'r geiriau 'ei ddyfeisio' yn ymddangos ochr yn ochr â 'ei ddylunio' a 'ei weithgynhyrchu'. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.
Y Gweinidog.
Diolch, Llywydd. Gan droi'n gyntaf at welliannau 11 a 12, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, nod y ddau welliant yw cyflawni'r un nod, sef cysoni'r diffiniad o 'untro' â'r hyn a ddefnyddir mewn mannau eraill, megis yn yr Alban. Mae'r gwelliannau yn cynnig ychwanegu 'ei ddyfeisio' at y termau 'ei dylunio' ac 'ei weithgynhyrchu' sydd yn y Bil ar hyn o bryd. Buom yn trafod y gwelliannau hyn mewn pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cyn hyn, trafodwyd y diffiniadau allweddol o fewn y Bil yn sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, lle'r oedd Aelodau'n teimlo y dylai'r rhain adlewyrchu, gair am air, y rhai a ddefnyddir yng nghyfarwyddeb plastig untro'r UE.
Rwyf wedi ystyried y gwelliannau yn ofalus a'u profi o'u cymharu â'r Bil fel y'i drafftiwyd. Gallaf sicrhau'r Senedd ein bod yn ffyddiog bod yr effaith ymarferol a fwriedir yn cael ei ddarparu'n fwy effeithiol, gan ddefnyddio'r diffiniadau yr ydym wedi'u datblygu yng nghyd-destun Cymru. Nid yw'r drafftio yn union yr un fath, gan ein bod wedi ceisio egluro testun neu ddileu geiriad yr ydym yn ei ystyried yn ddiangen. Mae hyn yn unol â'n harfer drafftio. Am y rhesymau a amlinellwyd ac a amlinellwyd mewn pwyllgor, nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau hyn.
Gan droi at welliant 13, a gynigiwyd hefyd gan Janet Finch-Saunders, mae hwn yn ceisio diwygio'r diffiniad o blastig drwy gyfeirio at reoliadau'r UE ar gofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegau, yn hytrach na chynnwys disgrifiad ar wyneb y Bil. Unwaith eto, mae hwn yn welliant a ystyriwyd yng Nghyfnod 2. Fel y dywedais i bryd hynny, ni fyddai'r newid arfaethedig yn unol â'r arfer drafftio gorau, nac yn cyd-fynd â'r nod o wneud deddfwriaeth yn fwy hygyrch. Rwy'n dadlau bod y diffiniad yn y Bil yn ddigonol ac wedi'i eirio i roi sicrwydd ac eglurder. Mae gwelliant 14, sy'n un arall a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn ganlyniadol i'r gwelliant, fel y dywedodd hi. Rwyf i felly yn gwrthwynebu gwelliannau 13 ac 14.
Cafodd gwelliant 1 ei gyflwyno gan y Llywodraeth. Diben y gwelliant yw symleiddio adran 2(1)(b) o'r Bil. Ei fwriadu yw mynd i'r afael ag amwysedd posibl wrth ddehongli a fyddai'n anghyson â'r polisi. Bydd y gwelliant yn hepgor darpariaethau nad ydynt bellach yn cyfateb yn llawn â'r darpariaethau yn yr Atodlen. At hynny, mae'r newid arfaethedig yn dileu unrhyw amheuaeth bosibl ynghylch natur a chwmpas pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 3 i ddiwygio neu ychwanegu at yr esemptiadau yn yr Atodlen. Mae angen y gwelliant er mwyn sicrhau bod y gwaharddiad a nodir yn adran 2 yn adlewyrchu bwriad y polisi yn gywir. Mae'n gwneud y Bil yn fwy syml a hygyrch, sy'n cyfateb i'n nodau ehangach wrth ddeddfu yng Nghymru. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi a phleidleisio dros y gwelliant hwn. Diolch.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Diolch. Fel yr wyf wedi dweud yn blaen yn gynharach, mae'r rhanddeiliaid yr ydym ni wedi ymgysylltu â nhw wedi dweud eu hunain bod angen i ddiffiniadau fod yn gyson â deddfwriaethau eraill y DU, ac felly rwy'n hollol argyhoeddedig wrth gynnig y gwelliannau hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mi fyddwn ni'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 11 wedi ei wrthod.
Dyw gwelliant 39 heb ei ddethol. Janet Finch-Saunders, gwelliant 12.
A yw'n cael ei gynnig?
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 12, felly, symudwn i bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 12 wedi ei wrthod.
Gwelliant 40 heb ei ddethol. Gwelliant 13.
Janet Finch-Saunders, a yw'n cael ei gynnig?
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly symudwn i bleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwelliant 13 wedi'i wrthod.
Gwelliant 14, Janet Finch-Saunders.
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly symudwn ni i'r bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwelliant 14, felly, wedi ei wrthod.