Grŵp 1: Ystyr cynhyrchion plastig untro a chynhyrchion plastig untro gwaharddedig (Gwelliannau 11, 39, 12, 40, 13, 14, 1)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:29, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n benbleth ddirfodol—rwyf eisiau siarad am welliannau nad ydyn nhw wedi eu dewis, felly fe siaradaf am welliannau 11 a 12, a oedd, fel sydd wedi ei ailadrodd, yn union yr un fath o ran cwmpas. Janet, roeddem ni mewn ras ac nid oeddem yn sylweddoli ein bod ni yn y ras honno, ond da iawn chi am eu cyflwyno ychydig cyn i mi wneud. Ni wnaf i ailadrodd yn hirwyntog eto y dadleuon ar y rhain. Yr un oedd fy mwriad gyda'r gwelliannau hyn—sef sicrhau bod 'untro' yn cwmpasu pob senario bosibl, ac y byddai'r geiriau 'ei ddyfeisio' yn ymddangos ochr yn ochr â 'ei ddylunio' a 'ei weithgynhyrchu'. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.