Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mi fyddwn ni'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 11 wedi ei wrthod.