1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi ym Mynwy? OQ58833
Diolch yn fawr, Peter. Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys sir Fynwy, yn wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth wedi’i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i drechu tlodi a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. A galwaf ar bob Aelod i hyrwyddo ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r ystod o gymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o drechu tlodi yn ein cymunedau. Rwy'n cydnabod bod trechu tlodi'n dasg anodd, ond mae’r adroddiad diweddar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi rhai meysydd pwysig y gall y Llywodraeth ac awdurdodau lleol eu gwella er mwyn helpu i gynyddu effeithiolrwydd y cynlluniau hynny. Er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi bod y cynghorau’n dibynnu ar gyllid grant tymor byr, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, sy’n aml yn weinyddol gymhleth, tra bo gwendidau yn y canllawiau a ddarperir yn ogystal â chyfyngiadau grant. Yn y cyfamser, traean yn unig o awdurdodau lleol sydd â swyddogion ac aelod arweiniol ar gyfer trechu tlodi, tra bo'r gymysgedd o ddulliau gweithredu a ddefnyddir gan gynghorau yn golygu bod y dirwedd yn gymhleth o ran cyflawni, gyda ffocws a blaenoriaethau gwahanol ym mhob ardal. Yn olaf, mae’r adroddiad yn nodi prinder targedau a dangosyddion, yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n ei gwneud hi'n anodd asesu effaith cynlluniau presennol. Weinidog, a gaf fi ofyn sut y byddwch yn ymateb i adroddiad yr archwilydd cyffredinol? Ac a gaf fi ofyn pa gynnydd a wnaed ar y strategaeth tlodi plant ac a fydd hyn yn bwydo i mewn i gynllun gweithredu cenedlaethol ehangach ar dlodi, fel y galwyd amdano yn y gorffennol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau. Yr hyn sy’n amlwg gan yr archwilydd cyffredinol, ac yn wir, o'r ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yw bod materion ac anghenion dyfnion, ac mae angen i bob partner chwarae eu rhan, yn enwedig awdurdodau lleol. Ar gyfer ein Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, dywedasant y dylem edrych ar faterion allweddol sy'n effeithio ar dlodi. Un maes oedd cynyddu incwm, a phartneriaeth a sicrhau hefyd ein bod yn mynd i'r afael â materion fel yr amgylchedd a seilwaith. Wrth gwrs, mae llywodraeth leol yn rhan amlwg iawn o hynny. Mae'n rhaid inni fabwysiadu ymagwedd hirdymor tuag at drechu tlodi ac achosion sylfaenol tlodi. Ond credaf fod llywodraeth leol yn chwarae rhan fawr yn hyn. Rwy’n cyfarfod â hwy bob pythefnos gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i drafod yr argyfwng costau byw. Maent yn ymwneud yn rhagweithiol â ni, ac yn wir, maent yn ein cynorthwyo i gyflawni'r hyn sydd wedi bod yn gynllun cymorth tanwydd llwyddiannus iawn. Fe wyddoch inni lansio'r cynllun hwnnw ddiwedd mis Medi. Mae 266,000 o daliadau wedi’u gwneud yn barod, ac rwy’n falch o ddweud bod 5,633 o aelwydydd sir Fynwy eisoes wedi cael y cymorth hanfodol hwn.
Mae pum mlynedd wedi bod ers y penderfyniad i ddod â Cymunedau yn Gyntaf i ben. Hon oedd strategaeth wrthdlodi’r Llywodraeth, ac nid oes un wedi'i rhoi ar waith yn ei lle. Ers hynny, mae lefelau tlodi wedi cynyddu, a byddant yn gwaethygu'n sylweddol oherwydd yr argyfwng costau byw, sy’n prysur ddod yn argyfwng difrifol. Pam nad oes gan Gymru strategaeth wrthdlodi benodol, Weinidog, ac a ydych yn cytuno bod angen un arnom nawr yn fwy nag erioed?
Wel, diolch yn fawr iawn, Peredur. Fel y dywedais, fe wnaethom gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i’n galluogi i edrych ar beth yw’r ysgogiadau allweddol. Yn amlwg, yr ysgogiadau allweddol a fydd yn cael effaith enfawr yw treth a budd-daliadau, sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Ac yn wir, mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith, o ran ymdrechion Llywodraeth y DU i drechu tlodi, fod pobl yn wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd, a byddwn yn dweud bod hyn o ganlyniad i'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cam-drin ein heconomi, sydd wedi bod yn drychinebus. A nawr, rydym yn agosáu at sefyllfa lle gwyddom, nid yn unig fod pobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, sy'n warthus yn yr oes sydd ohoni, ond hefyd, rydym yn gweld bod disgwyl i'r gyfradd ddiweithdra godi. Felly, rydym yn gwneud ein rhan gyda'r hyn y gallwn ei wneud gyda chynllun cymorth tanwydd y gaeaf, cefnogi ein cronfa cymorth dewisol—ymyriadau tymor byr yw'r rhain—canolfannau clyd a hefyd, yn wir, datblygu ein polisi cymunedau, sy’n fenter drawslywodraethol i fynd i’r afael â’r materion hirsefydlog hyn.