Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:00, 7 Rhagfyr 2022

Mae ein rhaglen Cartrefi Cynnes ar gyfer aelwydydd ar incwm is yn arbed £300 y flwyddyn iddyn nhw ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys ar incwm isel hefyd yn cael taliad o £200 drwy’r cynllun cymorth tanwydd. Mae ein hymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn helpu pobl i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i’w cael.