1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58835
Mae ein rhaglen Cartrefi Cynnes ar gyfer aelwydydd ar incwm is yn arbed £300 y flwyddyn iddyn nhw ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys ar incwm isel hefyd yn cael taliad o £200 drwy’r cynllun cymorth tanwydd. Mae ein hymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn helpu pobl i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i’w cael.
Da iawn. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna.
Gyda gaeaf caled bellach yn dechrau brathu, rhaid i gwmnïau ynni flaenoriaethu anghenion cwsmeriaid bregus sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau, ac felly, rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo'n ddig iawn wrth ddarllen yr ymchwil gan Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan a ganfu fod tri chyflenwr ynni—TruEnergy, Utilita Energy a Scottish Power—yn dangos gwendidau difrifol yn y ffordd y maent yn ymdrin â chwsmeriaid sy'n cael trafferthion talu, gydag Utilita a Scottish Power yn cael hysbysiadau gorfodi. Yn hanesyddol, Scottish Power yw'r prif gyflenwr ar gyfer fy etholwyr yn Nwyfor Meirionnydd, ac yn wir, ar draws y rhan fwyaf o ogledd Cymru. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyflenwyr ynni yn gwneud yn siŵr fod eu cwsmeriaid, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, yn cael y cymorth y maent ei angen gan y cwmnïau hynod broffidiol hyn i dalu eu biliau?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, oherwydd, fel chi, mae'r hyn rwyf wedi'i ddarllen ac arferion gwael cyflenwyr ynni yn fy mrawychu. Cyfarfûm ag Ofgem yr wythnos diwethaf a buom yn sôn am nodi'r cwmnïau hynny, Mabon, sy'n cyflawni'r arferion gwael hyn, fel y maent hwy wedi'i wneud. Clywsom fwy am hynny yn y wasg yr wythnos hon. Rwyf wedi cynnal sawl trafodaeth, mewn gwirionedd, gyda chyflenwyr ynni. Cynhaliais un ar 21 Tachwedd ac un arall ar 28 Tachwedd, ac mewn gwirionedd, cyfarfûm ag EDF Energy heddiw.
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar dri pheth ac rydym yn gofyn tri chwestiwn iddynt. Rwyf eisiau ailadrodd y rheini'n gyflym. Rydym wedi gofyn am ddata ar nifer yr aelwydydd sy'n cael eu cefnogi gyda'u biliau ynni, sut maent yn cael eu cefnogi os ydynt yn agored i niwed, a pham—nid ydym eisiau iddynt wneud hyn, ond os ydynt yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu, beth yw'r rheswm am wneud hynny. Rydym wedi gofyn iddynt beidio â throsglwyddo pobl i fesuryddion rhagdalu pan fydd ganddynt ôl-ddyledion, a cheir pryderon fod pobl sydd â mesuryddion deallus yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu yn ddiarwybod iddynt. Ac rydym yn gofyn iddynt gael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu. Rwyf ar fin gwneud datganiad ysgrifenedig ar hyn i roi ychydig o adborth. Mae rhai ohonynt wedi cytuno i rannu data gyda ni, ac rydym eisiau eu cysylltu ag Advicelink Cymru fel bod yr holl ganolfannau Cyngor ar Bopeth a phawb arall yn ymwybodol o lle mae yna aelwydydd agored i niwed. Rydym eisiau eu hargyhoeddi mewn gwirionedd na ddylent fod yn trosglwyddo pobl i fesuryddion rhagdalu gan eu bod yn ddrutach a chan fod y taliadau sefydlog yn berthnasol hyd yn oed pan nad oes ganddynt gyflenwad ynni. A phan fyddant yn dechrau bwydo'r mesurydd, byddant yn talu am daliadau sefydlog. Nid wyf yn gwybod a yw pawb yn gwybod hyn, ond dylai hon fod yn alwad unedig i Lywodraeth y DU atal taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu. Mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn ddweud bod gennym ein partneriaeth Sefydliad Banc Tanwydd; mae gennym eisoes 6,000 o dalebau sydd wedi'u darparu drwy bartneriaid sy'n gweithio ledled Cymru i helpu pobl gyda'u mesuryddion rhagdalu.
Diolch eto, Weinidog, am fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yr wythnos diwethaf, lle gwnaethoch chi ddweud, ymysg pethau eraill, fod ffocws Llywodraeth Cymru ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, gan nodi, ymysg pethau eraill, y gwelliannau i gynllun Nyth, a dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl yn sgil ECO4. Felly, pa ymgysylltiad rydych chi neu eich cyd-Aelodau wedi'i gael, neu pa ymgysylltiad y byddwch chi'n ei gael, gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun ECO Plus newydd, a elwir yn ECO4, sy'n anelu at sicrhau bod cannoedd o filoedd o gartrefi yn cael inswleiddiad newydd, gan arbed tua £310 y flwyddyn i ddefnyddwyr, a chan estyn cefnogaeth i'r rhai yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yn y bandiau treth gyngor is, yn ogystal â thargedu'r bobl fwyaf agored i niwed, ac ymestyn cefnogaeth i'r rhai nad ydynt yn elwa o unrhyw gymorth arall gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, i uwchraddio'u cartrefi?
Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymwneud yn fawr â hyn ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i weld pa fudd a ddaw yn sgil ECO4 o ran ein sefyllfa. Oherwydd yn amlwg, mae effeithlonrwydd ynni, ac effeithlonrwydd ynni ein rhaglen Cartrefi Clyd, yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond rwy'n credu, unwaith eto, mai cyfrifoldeb y Gweinidog Newid Hinsawdd fydd adrodd yn ôl ar y trafodaethau presennol, ond hefyd i gydnabod yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r rhaglen Cartrefi Clyd, y cynllun Nyth sy'n seiliedig ar alw, nad yw'n dod i ben tan fis Medi nesaf mewn gwirionedd, ac rydych yn gwybod ei bod bellach wedi cyhoeddi dull newydd yn ei datganiad ar lafar ar 8 Tachwedd, sy'n ddull ffabrig yn gyntaf, gwaethaf yn gyntaf a charbon isel o fynd ati.
Roeddwn eisiau dilyn cwestiwn Mark Isherwood, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud â grymuso awdurdodau lleol a sicrhau bod ganddynt adnoddau i wneud cais am system ECO4 Flex, oherwydd mae'n debyg i 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddi, i ôl-osod rhai o'n cartrefi niferus sy'n rhy oer o lawer a lle mae pobl yn byw mewn tlodi tanwydd. Felly, tybed a wnewch chi gael sgwrs gyda'ch cyd-Aelod, y Gweinidog llywodraeth leol, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod gan awdurdodau lleol adnoddau i sicrhau bod ganddynt allu i wneud cais am y cyllid hwn.
Wel, rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn y prynhawn yma fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd gydag arweinwyr llywodraeth leol. Mae gennym gostau byw ar yr agenda, a byddaf yn codi hyn gyda hwy. Ond yn amlwg, mae fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, hefyd yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar unrhyw gyfle.
Cwestiwn 7 i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Sarah Murphy.