Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn sicr yn gyfrifoldeb trawslywodraethol—yn bennaf ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ond hefyd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn ymwybodol o’r ymgynghoriad interim hwnnw ar wasanaethau rhywedd i blant a phobl ifanc, a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau GIG Cymru i'r grwpiau hynny. Credaf y gallwn roi diweddariad—. Mewn gwirionedd, efallai y gwnaf—. Lywydd, a gaf fi ofyn i fy nirprwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn?