1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ceisiadau i’r Loteri Genedlaethol am arian at achosion da yng Nghymru, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ba mor aml y mae Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â rhanddeiliaid i ddarparu trosolwg ar gyfer dosbarthu cyllid? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn, Joel James. Nid oes gennym unrhyw ddylanwad ar sut a phwy y mae'r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r cyfarwyddwr, ac yn wir, cynrychiolydd Cymru ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol. Fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, y dirprwy Weinidog, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol, o ran dealltwriaeth gyffredinol a chyswllt mewn perthynas â defnydd o’r arian.
Diolch, Weinidog. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, hyd at 2020, bum mlynedd ar hugain ers cychwyn y loteri, roedd Cymru wedi derbyn oddeutu £1.75 biliwn o gyllid ar gyfer achosion da. Er fy mod yn cydnabod bod hwn yn swm enfawr, rwy'n ymwybodol serch hynny mai oddeutu 4 y cant yn unig yw hynny o gyfanswm y cyllid a ddarparwyd yn y DU, sef oddeutu £40 biliwn. Hyd yn oed os edrychwch ar hyn o safbwynt canran o'r boblogaeth, gyda 5 y cant o boblogaeth y DU yng Nghymru, ymddengys nad yw Cymru wedi cael cyfran gynrychioliadol o’r arian sydd ar gael.
Weinidog, ni chredaf fod hyn yn fwriadol ar ran y Loteri Genedlaethol, ac mae’n teimlo fel pe bai’n fwy tebygol o fod oherwydd naill ai nifer isel o geisiadau, neu nifer uchel o geisiadau a gyflwynwyd yn wael. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y ceisiadau a gwella’r gyfradd lwyddiant gymaint â phosibl? Diolch.
Fel y dywedais, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd. Yn sicr, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â’r Loteri Genedlaethol mewn perthynas â’r meysydd polisi sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Rydym hefyd yn ymweld â phrosiectau. Ymwelais â phrosiect arloesol cyffrous iawn ym Mhlas Madog yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Ken Skates, lle gwelsom bartneriaeth wirioneddol arloesol gyda phlant a phobl ifanc, a phobl hŷn hefyd. Roeddem yn edrych ar ba mor bwysig yw cyllid a buddsoddiad y Loteri Genedlaethol. Nid yw’r wybodaeth honno gennyf, Joel, ynglŷn â sut y maent yn annog mwy o geisiadau, ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda hwy, a byddaf yn gofyn iddynt roi gwybod. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr arian y maent wedi’i roi yn fwyaf diweddar, ar y themâu y maent yn edrych arnynt—er enghraifft, costau byw yw’r maes allweddol ar gyfer y meini prawf ar hyn o bryd—ac yn wir, sut y maent hwy, fel ninnau, yn annog pobl i wneud ceisiadau.
Diolch, Weinidog. Edrychaf ymlaen at gael eich llythyr. Ar y newid nawr gyda'r Loteri Genedlaethol i Allwyn Entertainment Ltd, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2024, a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gysylltiad o gwbl gydag Allwyn Entertainment Ltd ynghylch dosbarthu cyllid yng Nghymru? A ydych yn rhagweld unrhyw newidiadau i'r broses o ariannu achosion da yng Nghymru o ganlyniad i’r berchnogaeth newydd hon? Diolch.
Na, nid wyf wedi cael unrhyw gysylltiad â hwy, ond byddaf yn sicr yn ymateb i hynny pan fyddaf yn gohebu ynghylch y nifer sy'n gwneud ceisiadau am arian loteri a'i ddosbarthiad.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Daeth ymgynghoriad cyhoeddus y DU ar fanyleb y gwasanaeth interim ar gyfer gwasanaethau dysfforia rhywedd arbenigol i blant a phobl ifanc i ben yn ddiweddar ar 5 Rhagfyr. Er eu bod wedi’u cyhoeddi gan GIG Lloegr, bydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith ar gleifion ifanc sydd o dan gyfrifoldeb comisiynu GIG Cymru. Mae pryderon wedi’u codi gan Stonewall ac eraill y bydd mynediad at y gwasanaeth interim yn cynnwys cam ymgynghori ychwanegol ar gyfer pobl ifanc cyn iddynt allu mynd ar y rhestr aros, a allai achosi hyd yn oed mwy o oedi cyn cael mynediad at ofal neu hyd yn oed atal mynediad ato'n llwyr. Nid oes unrhyw gyfeiriad ychwaith at y canllawiau rhyngwladol diweddaraf ar arferion gorau ar gyfer gofal iechyd traws. Un o’r agweddau sy’n peri’r pryder mwyaf yw bod manyleb y gwasanaeth yn ceisio trin trawsnewid cymdeithasol fel ymyriad meddygol, sydd ond yn cael ei argymell ar ôl cael diagnosis a phrofi lefelau o drallod clinigol sylweddol yn unig. A ydych yn cytuno, Weinidog, a Ddirprwy Weinidog, nad yw trawsnewid cymdeithasol, fel newid enw, rhagenwau a/neu fynegiant rhywedd, yn ymyriad meddygol?
Fel y gwyddoch, bydd gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd Tavistock—GIDS—yn cau yn y gwanwyn. Mae disgwyl i ddwy ganolfan ranbarthol agor: un yn Llundain, a'r llall yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ond mae pryderon y bydd hyn yn arwain at fylchau pellach yn y ddarpariaeth ac yn ymestyn amseroedd aros, sydd eisoes yn hir. Hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r newidiadau arfaethedig hyn. A ydynt wedi cael eu codi gyda Llywodraeth Cymru? A oes asesiad effaith wedi’i gynnal ynglŷn â sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru a phlant a phobl ifanc yng Nghymru sydd angen mynediad at wasanaethau dysfforia rhywedd? Sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y cynllun gweithredu LHDTC+? A gyfrannodd Llywodraeth Cymru at yr ymgynghoriad? Mae’n amlwg y bydd yn cael effaith ar bobl ifanc yng Nghymru sy’n ceisio cymorth a gofal. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn sicr yn gyfrifoldeb trawslywodraethol—yn bennaf ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ond hefyd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn ymwybodol o’r ymgynghoriad interim hwnnw ar wasanaethau rhywedd i blant a phobl ifanc, a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau GIG Cymru i'r grwpiau hynny. Credaf y gallwn roi diweddariad—. Mewn gwirionedd, efallai y gwnaf—. Lywydd, a gaf fi ofyn i fy nirprwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn?
Na chewch. Dylai’r cais hwnnw fod wedi'i wneud gan Blaid Cymru cyn i’r cwestiwn ddechrau.
Efallai y dylwn ddweud y byddwn yn ateb hynny maes o law. Credaf mai'r hyn sy’n bwysig—y gallaf ymateb iddo—yw’r ffaith ein bod wedi sicrhau bod gwasanaeth rhywedd Cymru yn datblygu. Fe’i lansiwyd ym mis Medi 2019, ac mae'n dîm rhywedd amlddisgyblaethol i Gymru, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'n bwysig iawn ei fod hefyd yn edrych ar amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiadau cyntaf, sef yr hyn a godwyd gennych fel pryder.
Diolch. Wrth gwrs, mae’r gwasanaeth sydd gennym yng Nghymru yma ar gyfer pobl dros 18 oed, onid yw? Dyna'r gwahaniaeth. Cyfarfûm yn ddiweddar â Chymdeithas Feddygol Prydain i drafod eu hadroddiad 'Sexual orientation and gender identity in the medical profession', sy'n nodi bod meddygon LHDTC+ yn wynebu camdriniaeth a gwahaniaethu yn rheolaidd. Er ei fod yn achos pryder fod hyn hyd yn oed yn digwydd, mae'r un mor ddrwg fod yr aelodau staff hyn yn aml yn dweud nad ydynt yn teimlo y gallant leisio eu pryderon gyda rheolwyr rhag ofn iddynt gael eu labelu'n godwyr twrw, neu rhag ofn i'w cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd gael ei ddatgelu heb gydsyniad. Mae gan yr Alban a Lloegr fecanweithiau annibynnol ar waith ar draws eu hysbytai i staff leisio pryderon am hyn a materion eraill mewn ffordd ddiogel, ond nid oes unrhyw beth ar waith ledled Cymru eto, er y gwaith sy'n mynd rhagddo ar fframwaith 'rhyddid i siarad'. A gaf fi ofyn felly i’r Gweinidog gysylltu â’r Gweinidog iechyd i sicrhau bod y fframwaith hwn yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith cyn gynted â phosibl fel bod staff gofal iechyd LHDTC+ ar y rheng flaen yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar frys?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig wrth inni anelu at lansio'r cynllun yn y flwyddyn newydd, y cynllun gweithredu LHDTC+. Cawsom ymateb enfawr i’r ymgynghoriad, ac rwy’n siŵr fod yr ymateb a’r pryder hwn yn rhan o hynny. Yr hyn sy’n bwysig am y cynllun yw ei fod yn gynllun trawslywodraethol, yn debyg iawn i'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, felly mae gan bron bob Gweinidog rôl i’w chwarae, gan gynnwys, wrth gwrs, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn yn gallu dwyn ei sylw hi at yr adborth a gawsoch gyda meddygon LHDTC+ yn ddiweddar gyda Chymdeithas Feddygol Prydain.