Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Efallai y dylwn ddweud y byddwn yn ateb hynny maes o law. Credaf mai'r hyn sy’n bwysig—y gallaf ymateb iddo—yw’r ffaith ein bod wedi sicrhau bod gwasanaeth rhywedd Cymru yn datblygu. Fe’i lansiwyd ym mis Medi 2019, ac mae'n dîm rhywedd amlddisgyblaethol i Gymru, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'n bwysig iawn ei fod hefyd yn edrych ar amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiadau cyntaf, sef yr hyn a godwyd gennych fel pryder.