Pobl sy'n Gadael Gofal

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 1:58, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch fod pwnc pobl sy'n gadael gofal wedi’i grybwyll y prynhawn yma, gan ei bod yn bwysig fod y sgiliau y maent yn eu dysgu yn ystod eu cyfnod mewn gofal yn cael eu cydnabod, a’u bod, yn wir, yn gallu cael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd a sgiliau trosglwyddadwy y gallent eu defnyddio mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol os dymunant. Gyda’r fath bwysau a diffyg staff yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa waith sy’n mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i ddenu pobl sy'n gadael gofal i yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol, fel y gellir gwobrwyo eu sgiliau a’u profiadau, yn hytrach na’u bod yn cael eu sianelu’n awtomatig i mewn i’r system les a budd-daliadau, fel y mae’r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei awgrymu?