Pobl sy'n Gadael Gofal

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:59, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio y gallwn ddwyn perswâd arnoch gyda'r cynllun peilot incwm sylfaenol. Mae'n rhoi cyfle go iawn i bobl ifanc ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae’r opsiynau hynny'n berthnasol i holl bobl ifanc Cymru. Mae'r warant i bobl ifanc yn hollbwysig—pobl 18 i 25 oed, pob unigolyn ifanc, swydd, hyfforddiant, addysg, prentisiaethau, sefydlu busnes. Clywsom yr holl bethau hynny gan ein pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Dyna maent hwy'n dymuno ei wneud. Dyna y byddant yn gallu ei wneud. Credaf ein bod yn symud ymlaen nawr o ran y datganiad a fydd yn cael ei wneud ac sy’n mynd i edrych ar bob agwedd ar fywyd. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu manylu ar hyn pan ddaw'r amser.