Hawliau Pobl Anabl

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:16, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Unsain wedi dynodi mai 2002—2022, mae'n ddrwg gennyf—yw Blwyddyn y Gweithiwr Anabl, ac yfory byddaf yn cynnal digwyddiad yn y Senedd, a fydd yn gyfle cyffrous i arddangos y sgiliau, y profiad a'r rhinweddau sydd gan weithwyr anabl i'w cynnig i weithlu'r sector cyhoeddus ac i gymdeithas. A bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar siarad yn erbyn gwahaniaethu ar sail anabledd, herio stereoteipiau negyddol ac amlygu'r gwaith y gellir ei wneud i gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl anabl rhag cyflawni eu nodau. Yn eich datganiad bythefnos yn ôl, fe'i gwnaethoch yn glir fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi camau i ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd ym mhob rhan o gymdeithas. A ydych yn cytuno, felly, mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn wneud hyn yw canolbwyntio ar greu cymdeithas lle mae pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi, gan eu helpu i fod yn fwy gweithgar mewn bywyd cyhoeddus, a hefyd, yn bwysig, mewn undebau llafur ac yn eu gweithleoedd?