Hawliau Pobl Anabl

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:17, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Hefin David. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'ch digwyddiad yfory, fel aelod balch o Unsain a hefyd fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond rwy'n cytuno mai'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys bywyd cyhoeddus, y gweithle, undebau, yw ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn gweithio tuag at hyfforddi ein holl staff ar y model cymdeithasol, a hefyd gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, i'w hyrwyddo fel bod pobl yn deall beth mae'n ei olygu: ein bod yn gwneud pobl yn anabl ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny. A byddaf yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hynny yfory yn eich digwyddiad.