Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Nawr, ar ein hagenda sero net, mae sero net a diogelwch ffynonellau ynni yn canolbwyntio ar ddefnyddio niwclear ac ynni adnewyddadwy gyda'i gilydd i gynnal y newid i ynni carbon isel, ac rydym i gyd yn derbyn y realiti fod angen mwy o waith ar ddatgarboneiddio'r cyflenwad pŵer yng Nghymru ac ar draws y DU, ac rydym wedi gweld bod cymheiriaid yn yr Almaen yn gaeth i sefyllfa lle maent yn dal i ddibynnu ar bŵer glo, sydd, yn fy marn i, yn fygythiad sylweddol ac uniongyrchol i ddyfodol y blaned. Rhai o'r prif resymau pam fod y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi defnydd o niwclear yw ei bod yn ffynhonnell o ynni carbon isel. Mae'n ffynhonnell ynni bwerus, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol ar gyfer y newid carbon isel. Mae'n ynni cyson y gellir ei reoli. Mae'n darparu trydan 24/7 parhaus a gellir ei addasu i amrywiadau yn y galw am drydan. Nid yw hyd yn oed patrymau dibynadwy ynni llanw yn darparu ynni sydd ymlaen drwy'r amser, ac mae'n dal i fod angen inni gynhyrchu llawer mwy o dechnoleg ar gyfer storio pŵer llanw, ac rwy'n awyddus ein bod yn parhau i wneud hynny.
Mae'n gystadleuol yn yr ystyr fod pŵer niwclear yn un o'r ffynonellau lleiaf drud i'w gynhyrchu. Yn Ffrainc, mae tua 70 y cant o'i thrydan yn cael ei gynhyrchu o niwclear. Yr her yw'r costau adeiladu a'r costau datgomisiynu. Ac rwy'n credu ei fod yn ynni a fydd yn ein helpu i gyrraedd y dyfodol rydym ei eisiau. Erbyn hyn mae gennym 8 biliwn o bobl yn byw ar y blaned, ac mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o'n helpu i gynhyrchu digon o bŵer i bawb ohonom allu goroesi gyda safon byw o'r ansawdd rydym yn ei ddisgwyl, ac y mae eraill yn ei ddisgwyl, gan fod yn garbon niwtral ar yr un pryd. Rwy'n deall yr hyn a oedd gan Mabon i'w ddweud, ond rwy'n credu bod yna achos go iawn y mae'r Llywodraeth hon yn ei dderbyn nad ydym yn debygol o allu gwneud hynny heb ragor o fuddsoddiad mewn pŵer niwclear. Mae hefyd yn cael ei gydnabod, yn yr ystyr honno, gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol pan fyddant yn edrych ar ynni adnewyddadwy a phŵer niwclear, fod gofyn cael peth llwyth sylfaenol o bŵer niwclear er mwyn cyrraedd dyfodol mwy cyflawn, a chwbl adnewyddadwy.
Mae Wylfa a Thrawsfynydd yng Nghymru wedi cefnogi tua 800 i 900 o swyddi hirdymor sy'n talu'n dda ers 50 mlynedd a mwy, yn ogystal â channoedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi leol, ac wrth gwrs mae'r rhain yn gymunedau lle nad oes cyfleoedd eraill mewn ardaloedd mwy adeiledig gyda phoblogaethau mwy o faint. Ac mae rhywbeth yma am sicrhau bod cyfleoedd economaidd mewn rhannau o Gymru sydd heb ganolfannau poblogaeth mawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru'n credu y dylai rhanbarthau a chymunedau lleol sydd â phrosiectau seilwaith niwclear sicrhau budd economaidd y tu hwnt i'r swyddi uniongyrchol ar y safle. Dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom sefydlu Cwmni Egino yn 2021, i fynd ar drywydd cyfleoedd sy'n gysylltiedig â Thrawsfynydd. Mae'r rheini'n cynnwys y gwaith parhaus ar ddatgomisiynu y mae Mabon ap Gwynfor eisoes wedi'i grybwyll. Nawr, mae'r swyddi hynny'n dal i gael eu cefnogi, ac mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ennill mwy o'r gadwyn gyflenwi, ac mae Trawsfynydd eisoes wedi dod yn ganolfan de facto ar gyfer rhagoriaeth datgomisiynu ar draws ystad Magnox. Mae wedi bod yn ganolfan arweiniol ac yn ganolfan ddysgu ers amser maith ar sut i ymdrin â materion datgomisiynu cymhleth—er enghraifft, trin resinau halogedig a malurion elfennau tanwydd. Dyma hefyd y safle cyntaf arfaethedig ar gyfer datgomisiynu arloesol, parhaus. Byddai hynny'n golygu dymchwel a symud adeiladau adweithyddion yn llwyr fel rhan o'r datgomisiynu parhaus, yn hytrach nag mewn 60 mlynedd yn dilyn cyfnod o ofal a chynnal a chadw ac oeri'r adweithyddion.
Felly, rydym yn edrych eisoes ar beth a all ddigwydd ac yn gweld Trawsfynydd fel cyfle i wneud hynny. Roedd adroddiad gan Arup ar gyfer Cwmni Egino ar ddiwedd 2020 ynghylch y buddion posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol o Drawsfynydd yn tybio, gyda dull datgomisiynu parhaus, y gallai'r galw am swyddi yn y dyfodol godi y tu hwnt i 2025, gan gyrraedd uchafbwynt o tua 600 yn y cyfnod rhwng 2030 a 2035, cyn gostwng ar ddiwedd y cyfnod datgomisiynu hwnnw.
Ar adweithyddion modiwlar bach, credaf ein bod ar y trywydd iawn i weld cyfleoedd posibl, nid yn unig gyda Chwmni Egino, ond o bosibl, bydd hefyd yn drosglwyddadwy i'r safle arall yn Wylfa. Mae yna her o ran y gallu i barhau i adeiladu ar adweithyddion modiwlar bach ar un safle er mwyn gallu adeiladu'n gyflymach, ond hefyd a allwch reoli costau mewn ffordd wahanol wrth wneud hynny. Mae'n un o'r honiadau sydd angen eu profi. Ond mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud ar drafodaethau prydles y safle o gwmpas Trawsfynydd ers inni greu Cwmni Egino, a bydd yr ymarfer ymgysylltu cynnar â'r farchnad gyda thechnolegau posibl yn dod i ben cyn y Nadolig. Byddwn mewn sefyllfa lawer cliriach ar ôl i'r ymarfer hwnnw gael ei wneud. Dylai hynny arwain at argymhelliad ar ddau neu dri thechnoleg y bydd Cwmni Egino yn ymwneud ymhellach â hwy, ac yn ceisio cael trafodaethau pellach gyda Great British Nuclear. Byddai hefyd yn helpu, wrth gwrs, pe bai cenhadaeth gliriach ar gyfer yr hyn fydd Great British Nuclear a'r hyn na fydd. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod sydd ar y ffordd yn weddol fuan gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i geisio deall pryd y bydd yr eglurder hwnnw'n cael ei ddarparu.
Mae cost prosiect adweithydd modiwlar bach o'i gymharu â phrosiect ar raddfa gigawat yn swm sylweddol is. Dylai fod yn fwy hylaw o ran y risg is i gost cyllid, ac yn wir y cyflymder a'r rhagolygon ar gyfer cyflawni. Ac unwaith eto, ystyriodd adroddiad Arup oblygiadau defnyddio adweithyddion modiwlar bach, ynghyd â chyfleoedd gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi, ac maent yn amcangyfrif y bydd yr uchafbwynt mewn cyflogaeth ar ddiwedd y 2020au, yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda dros 2,500 o weithwyr ar y safle, a gweithlu comisiynu a gweithredol o tua 450 o swyddi mwy hirdymor ar y safle o ddechrau'r 2030au. Nawr, byddai hynny'n amlwg yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar yr economi leol yn Nwyfor Meirionydd, ond ar draws y rhanbarth ehangach. Mae'n debygol y bydd pobl yn teithio o rannau eraill o ogledd-orllewin Cymru ar gyfer hynny. Yr amcangyfrif a roddir yw gwerth ychwanegol gros amcangyfrifedig ar gyfer gogledd-orllewin Cymru o £41.6 miliwn, a £133 miliwn ar draws economi gogledd Cymru.
Nawr, rwy'n cydnabod bod Mabon ap Gwynfor hefyd wedi cyffwrdd â rhai o'r materion sy'n ymwneud ag adweithydd ymchwil radioisotop meddygol, a chyda phob parch, rwy'n anghytuno â'i honiad nad oes lle i adweithydd modiwlar bach ac adweithydd ymchwil radioisotop meddygol ar safle Trawsfynydd. Mae'n darparu cyfle sylweddol i gyfleuster cynhyrchu radioisotop meddygol. Mae isotopau o safon feddygol yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser, ac mae ymchwil yn dangos, er bod y galw'n uwch, mae eu cynhyrchiant yn lleihau. Roedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud am safleoedd posibl yn yr Almaen. Yr ymarfer rwyf fi wedi ei gyflawni gyda swyddogion yma yn Llywodraeth Cymru, ac eraill yn wir, yw nad ydym yn rhannu ei optimistiaeth y bydd safleoedd yn yr Almaen yn barod mewn pryd i ateb yr holl alw ar gyfer ein systemau iechyd a gofal ein hunain a hefyd cyfleusterau ymchwil eraill posibl. Nawr, ein barn ni yw mai Trawsfynydd yw'r safle delfrydol yn y DU ar gyfer adweithydd ymchwill radioisotop meddygol. Ymhell o fod yn dechnoleg ddoe, ein barn ni yw bod y prosiectau a'r rhaglenni hyn sy'n gysylltiedig â'r sector niwclear sy'n targedu technoleg heddiw ac yfory, yn cynnig cyfleoedd mawr eu hangen a dilys ar gyfer cynhyrchu ynni a chanlyniadau iechyd fel ei gilydd.
Rwy'n cydnabod gwrthwynebiad parhaus a chyson Mabon i bŵer niwclear newydd. Nid wyf yn gweld bod pŵer niwclear yn atal buddsoddiad sylweddol a pharhaus yn nyfodol ynni adnewyddadwy. Rwy'n awyddus iawn inni wneud y ddau beth. Rydym yn gweld niwclear fel llwybr at ddyfodol lle na fyddwn ei angen yn y dyfodol hwnnw. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd dyfodol pŵer niwclear ac ymchwil radioisotop, ynghyd â dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n optimistaidd y gwelwn fanteision economaidd sylweddol wrth wneud hynny.