Part of the debate – Senedd Cymru am 6:47 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon ac am y cyfraniadau eraill. Rwy'n croesawu'r ddadl fel cyfle i nodi pwysigrwydd y sector niwclear yng Nghymru, ond hefyd i gydnabod, o'm safbwynt i, y cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud i gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a helpu i greu swyddi. Rwy'n derbyn bod gennyf bersbectif gwahanol i Mabon ap Gwynfor ar y pwynt hwn.
Hoffwn ddatblygu'r pwynt yn gyntaf am yr honiad fod yna ffydd ddall wrth gefnogi technoleg niwclear. Mae hynny'n awgrymu bod pobl sy'n cefnogi cenhedlaeth arall o bŵer niwclear neu ecsbloetio niwclear yn anwybyddu cyfyngiadau a heriau amlwg y dechnoleg, ac yn benderfynol o gefnogi cynhyrchiant pŵer niwclear er gwaethaf y pryderon am ddiogelwch a rheoli gwastraff. Ni allai dim fod ymhellach o'r gwir. Mae'n rhaid i gefnogwyr ynni niwclear heddiw fod yn bragmatyddion a phenderfynu a ydym yn credu y gellir cyflawni sero net neu beidio gyda niwclear yn rhan o'r cymysgedd ynni ehangach. Rwy'n credu ei fod yn rhan o'r cymysgedd ynni ehangach sydd ei angen. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod pryderon yn parhau am ddiogelwch a rheoli gwastraff, a byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r rheini, ac fe ddylid mynd i'r afael â hwy mewn modd agored a thryloyw.
Rwy'n deall yr awgrym mai technoleg sy'n heneiddio, technoleg ddoe, yw niwclear am ein bod wedi bod yn cynhyrchu trydan o ffynonellau niwclear ers tua 60 mlynedd. Wel, os mai hyd amser y dechnoleg sy'n bwysig, efallai na fyddwn bellach yn cefnogi ynni gwynt neu ddŵr, oherwydd o genedlaethau cynharach y technolegau hynny, gwelwn y rheini'n gwella ac yn datblygu. Mae cynhyrchu trydan o ynni gwynt yn arloesedd cymharol ddiweddar ac mae'n dangos nad yw datblygiadau technolegol o reidrwydd yn gyfyngedig i dechnolegau newydd. Mae technoleg niwclear ei hun yn esblygu'n gyson, ac ymhell o fod yn dechnoleg ddoe sy'n heneiddio, rwy'n dal i feddwl—ac yn wir mae nifer o arbenigwyr eraill yn credu hynny hefyd, yn wahanol i'r rhai y mae Mabon wedi'u dyfynnu—ei bod yn dechnoleg ar gyfer ein taith i yfory, yn enwedig pan ystyrir y cynnydd ym maes ymasiad niwclear. Rwy'n credu y byddai cefnogwyr adweithyddion modiwlar bach yn dweud ei bod yn dechnoleg aeddfed rydych chi'n ei deall ac mewn gwirionedd, nid yw adweithyddion modiwlar bach, y byddaf yn siarad amdanynt yn nes ymlaen, angen y math o heriau sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad sylweddol y mae pŵer niwclear ar raddfa fwy yn ei angen.
Nawr, mae ymasiad niwclear, os gallwn ei ddatblygu, yn cynnig cynhyrchiant sylweddol o feintiau masnachol yn y dyfodol gyda llawer llai o broblemau'n gysylltiedig â diogelwch a rheoli gwastraff na'r rhai sy'n gysylltiedig ag ymholltiad. Fodd bynnag, mae gwaith i'w wneud o hyd i brofi'r defnydd o ymasiad, ac yn y cyfamser mae ymholltiad yn parhau i gynnig modd profedig o gynhyrchu llwyth sylfaenol mawr o drydan carbon isel sydd ar gael bob amser.