Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Wel, gallaf ddweud bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn dal i fod yr un peth. Rydym yn cefnogi argymhellion comisiwn Thomas, ac rydym hefyd yn cefnogi, yn benodol o fewn hynny, datganoli cyfiawnder a datganoli cyfiawnder troseddol yn arbennig. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn gamau sylweddol iawn ymlaen.
Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ofalus ynghylch tynnu agweddau ar adroddiad Gordon Brown o'u cyd-destun, adroddiad a gomisiynwyd gan Blaid Lafur y DU wrth gwrs. Rwy'n credu ei fod yn cynnwys negeseuon pwysig iawn. Yn gyntaf, mae'n dweud:
'Fel mater o egwyddor, ni ddylid cyfyngu ar ddatganoli i Gymru ac eithrio drwy gadw'n ôl y materion hynny'n unig sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni dibenion y DU fel undeb'.
Dywed hefyd nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai materion sydd wedi eu datganoli yn yr Alban, gan gynnwys pwerau newydd sy'n cael eu cynnig, gael eu datganoli i Gymru hefyd. Ac mae'n cyfeirio'n benodol at yr argymhelliad i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Ond rwy'n credu—. Mewn sawl ffordd, rhan bwysicaf yr adran hon o'r adroddiad yw'r ffaith ei fod hefyd yn dweud
'bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn i archwilio gwahanol faterion cyfansoddiadol, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Pan fydd yr adroddiad... wedi dod i law, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Lafur ymgysylltu'n adeiladol â'i argymhellion.'
Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod yr adroddiad hwnnw'n cydnabod yr hyn a ddywedasom yn gynnar iawn pan wnaethom sôn am sefydlu'r comisiwn annibynnol, sef mai yn y lle hwn y byddem yn gwneud penderfyniadau ar ddyfodol Cymru, ac mai'r Senedd hon a phobl Cymru ddylai benderfynu sut olwg fyddai ar y dyfodol hwnnw. A thra bod y comisiwn yno, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod yr adroddiad hwnnw'n ystyried y ffaith bod y comisiwn yno, a bod yr argymhellion a'r safbwyntiau y mae'r comisiwn yn eu cyflwyno yn rhai y byddwn ni fel Senedd yn eu hystyried wedyn. Byddwn yn penderfynu ein hunain beth sy'n bwysig ac yna byddwn yn anelu i ymgysylltu'n adeiladol ar gyfer datganoli neu ar gyfer y newidiadau a'r diwygiadau rydym yn eu hystyried yn angenrheidiol mewn perthynas â Chymru, yn seiliedig ar argymhellion y comisiwn hwnnw.