Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd gennych i'w ddweud ar hyn, ac rwyf eisiau codi'r pryderon rydym wedi'u clywed am natur anghysylltiol y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd. Er enghraifft, pan gawsom gyfarfod o'r pwyllgor deddfwriaethol a chyfansoddiadol, o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, gyda'r Arglwydd Bellamy, tynnwyd sylw at bwysigrwydd prosiect Ymweld â Mam fel pe bai hwn yn rhywbeth sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, er mai Llywodraeth Cymru sy'n ei ariannu mewn gwirionedd. Yn yr un modd, mae tystiolaeth a glywsom gan Gymdeithas yr Ynadon yn codi rhai pryderon. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros Gymdeithas yr Ynadon, ac mae'r bylchau y mae pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn cwympo drwyddynt, yn enwedig menywod, lle rydym yn benderfynol o beidio ag anfon pobl i'r carchar oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, yn nodi ein bod wedi gorfod gwthio'n galed ar y mater hwn, oherwydd mae'n sefyllfa gwbl gamweithredol ar hyn o bryd.