Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Wel, diolch am y sylwadau hynny, ac nid wyf yn anghytuno â'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud. Mae llawer ohonynt yn bwyntiau rydym wedi'u gwneud yn ein papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', ac wrth gwrs mae'r ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd, y cyhoeddiad The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i.
Yr hyn sy'n bwysig ynglŷn â'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â chomisiwn Thomas yw eu bod yn gefnogol wrth gwrs, a'u bod wedi derbyn y pwyntiau am ddadgyfuno data rydym ei angen i gael dadansoddiad data i Gymru, oherwydd er mwyn ffurfio polisi mae angen ichi wybod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi cael ein syfrdanu'n llwyr gan rywfaint o'r data gan Brifysgol Caerdydd, a oedd yn dangos, o bob 10,000 o'r boblogaeth, y byddai 14 o'r rhai yng ngharchar yn wyn a 79 o gefndiroedd du neu ethnig leiafrifol. Mae'r rhain yn ffigurau hollol frawychus, ac mae dadgyfuno gwybodaeth yn ein galluogi i ddeall pam fod hynny'n digwydd, pam fod mwy o ddinasyddion Cymru yn cael eu carcharu o fewn y system gyfiawnder, a phethau y mae angen i ni eu deall. Ac mae'n cyd-fynd yn union â'r rheswm pam ein bod eisiau datganoli cyfiawnder. Yr hyn sy'n bwysig am adroddiad Gordon Brown yn fy marn i—ac wrth gwrs, byddaf yn edrych ymlaen at yr adroddiad llawn gan ein comisiwn annibynnol ein hunain maes o law—yw nad oes unrhyw ddrysau ar gau.