Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Refferendwm Annibyniaeth i'r Alban

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:45, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt cyfansoddiadol pwysig. Ac mae'n ddiddorol iawn, yn adroddiad Brown Gordon, ei fod yn disgrifio'r Deyrnas Unedig yn benodol iawn fel cymdeithas o genhedloedd, felly i gydnabod cyfansoddiad hynny. Yn sicr, dyna fy nghred i, o ran beth yw'r sefyllfa real, oherwydd, os oes gennych chi senedd sy'n ethol pobl, sydd â mandad o etholiad, gan y bobl, ni all sofraniaeth fod yn unrhyw beth heblaw wedi ei rhannu. Y pwynt y byddem yn ei wneud, rwy'n credu, yw bod gennym gyfansoddiad sydd wedi dyddio ac sy'n gamweithredol, a dyna pam y credaf ein bod yn cael yr holl ddadleuon cyfansoddiadol hyn, oherwydd, fel y mae adroddiad interim y comisiwn annibynnol, a gyhoeddodd eu hadroddiad heddiw, wedi dweud, nid yw'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd yn gweithio—nid yw'r status quo yn gweithio. Mae hynny, mewn gwirionedd, yn rhywbeth sydd wedi cael ei ailadrodd yn gyson gan y grŵp rhyngseneddol, yr arferwn ei fynychu yn flaenorol, ac rwy'n credu bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bellach yn ei fynychu. Ar yr achlysuron niferus roeddwn i yno, rhoddwyd y datganiadau allan, a'r rhain yn ddatganiadau trawsbleidiol, nad yw'r trefniadau'n gweithio yn y bôn, a bod angen diwygio sylweddol. Rwy'n credu bod angen diwygio radical tu hwnt. Rwy'n ystyried adroddiad interim y comisiwn annibynnol yn ofalus iawn, ond rwyf hefyd yn ystyried adroddiadau eraill yn ofalus iawn, ynghyd â sylwebaeth arall a wneir, ond gan gynnwys yr adroddiad gan Gordon Brown, sy'n nodi beirniadaeth radical iawn o'r system bresennol, sy'n dweud yn glir iawn nad yw'r status quo yn gweithio, ac sy'n cyflwyno cyfres o egwyddorion a chynigion mewn perthynas â diwygio radical, ac un ohonynt, mewn gwirionedd, yw diddymu Tŷ'r Arglwyddi a chael rhywbeth yn ei le. Rwy'n credu bod llawer yn yr egwyddorion hynny sy'n haeddu cael eu hystyried yn ddifrifol iawn, ac rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad ar lafar i'r Senedd hon ym mis Ionawr, pan gawn gyfle i drafod ac ystyried llawer o'r materion pwysig hyn yn fanwl. Nid yw'n ymwneud â'r cyfansoddiad fel y cyfryw, ond y cyfansoddiad yw'r modd y caiff pŵer ei arfer. Dyna sy'n effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Mae'n bwysig i ansawdd bywyd pobl Cymru, a dyna pam ei fod yn bwysig i ni, a pham fod gennym y comisiwn a pham ein bod yn cael y trafodaethau hyn.