Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Refferendwm Annibyniaeth i'r Alban

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:44, 7 Rhagfyr 2022

Dyna oedd geiriau Mark Drakeford. Felly, yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys oedd yn datgan na all yr Alban ddeddfu i gynnal refferendwm ar ei dyfodol ei hun, a bod Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol ac arweinydd yr wrthblaid yno, Keir Starmer, wedi datgan na fydden nhw'n caniatáu i'r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod y Deyrnas Gyfunol yn gymdeithas wirfoddol—voluntary association—o bedair cenedl, a beth mae'r Llywodraeth yma yn ei wneud i ddangos i bobl sut fod posib ail-lunio'r Deyrnas Gyfunol mewn modd sy'n dangos ei bod yn gymdeithas wirfoddol?