Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:37, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn ymwneud â mater yn fy rhanbarth sy'n achosi pryder i etholwyr, ond mae iddo oblygiad cenedlaethol. Mae cais Merthyr (South Wales) Ltd i barhau i gloddio am lo ym mhwll glo Ffos-y-Frân y tu hwnt i'r dyddiad cau gwreiddiol, a chloddio am dair blynedd arall, wedi achosi cryn ofid i drigolion oherwydd pryderon am ansawdd yr aer a llygredd sŵn. Mae'r safle wedi ei leoli ychydig fetrau i ffwrdd o gartrefi, ysgolion a meysydd chwarae. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau a yw erthygl 67, adran 26A o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn rhoi'r cyfrifoldeb eithaf i Weinidogion Cymru am gymeradwyo ceisiadau gwaith cloddio glo yng Nghymru? A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau hefyd a yw hysbysiad cyfarwyddyd Rhagfyr 2018 yn gorfodi cynghorwyr i gyfeirio ceisiadau ar gyfer gwaith glo neu betroliwm i Weinidogion Cymru? Ac yn seiliedig ar y darnau hyn o ddeddfwriaeth, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi safbwynt ar allu Llywodraeth Cymru i wrthod y cais gan Merthyr (South Wales) Ltd i barhau i gloddio am lo ar safle Ffos-y-Frân?