Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch am godi hynny. Rydych yn codi materion penodol iawn sy'n ymwneud â materion cynllunio a phwerau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, mae yna faterion wedi cael eu codi, er enghraifft, mewn perthynas ag ardal gloddio glo arall, a mae'r materion yn ymwneud yn aml â pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac a yw'n ymwneud â chaniatadau cynllunio sydd eisoes wedi'u rhoi neu a yw'n ymwneud â cheisiadau cynllunio newydd, ac yn y blaen. Edrychwch, ar yr amgylchiadau yno, nid yw'r manylion y gwnaethoch chi ofyn amdanynt yn bethau y gallaf eu rhoi i chi heddiw; os ysgrifennwch ataf ar wahân, os oes materion y gallaf roi ateb penodol i chi arnynt, rwy'n hapus i wneud hynny. Ond rwy'n credu y byddai'n amhriodol imi ymateb heb wybod y cefndir, gwybod ar ba gam y gallai fod arno yn y system gynllunio, pa faterion eraill a allai fodoli, a pha mor fanwl y gallaf fod wrth ymateb i chi.