Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae nifer yn dweud nad oes dim awdurdodaeth gyfiawnder yng Nghymru. Wel, dyw hynny ddim yn wir. Mae yna awdurdodaeth gyfiawnder fechan yng Nghymru, a hynny drwy'r system tribiwnlysoedd. A hithau'n flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar sut i wella'r tribiwnlysoedd Cymreig, a hynny yn llwyr o fewn pŵer Llywodraeth Cymru i wneud hynny ac i helpu nifer fawr o ddefnyddwyr y tribiwnlysoedd, a oes modd i chi nawr, wedi blwyddyn, roi amserlen bendant i ni am bryd y gwelwn ni'r strwythur newydd i'r tribiwnlysoedd, a phryd y gwelwn ni, am y tro cyntaf mewn canrifoedd, y system apêl gyntaf yng Nghymru? Diolch yn fawr.