Y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:59, 7 Rhagfyr 2022

Diolch i'r Cwnsler am yr ateb yna. Dwi'n cytuno efo'ch brawddeg agoriadol: dylai deddfau i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a dylai fod yna atalnod llawn yn fanna. Dwi wedi bod yn Aelod etholedig o'r Senedd yma am flwyddyn a hanner bellach, ond yn barod—ac mae'n loes calon gen i ddweud hyn—dwi'n colli hyder yn y broses ddatganoli fel mae hi'n cael ei gweithredu yma ar hyn o bryd. Mae'n berffaith amlwg i mi fod y setliad sydd gennym ni yn gwbl annerbyniol.

Fel aelod o'r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol, rydyn ni wedi derbyn sawl LCM, ac yna LCM atodol, ail LCM atodol, trydydd LCM atodol ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'r cydsyniadau deddfwriaethol yma yn ymwneud â deddfau ar gyfer Lloegr sydd yn dylanwadu ar Gymru, ond prin iawn ydy'r amser sydd gennym ni i graffu arnyn nhw. Dyma ddeddfwriaeth sydd am effeithio ar fywydau pobl Cymru, ond rydyn ni'n cael rhyw chwarter awr yma ac acw i graffu arnynt a gofyn cwestiynau, heb sôn am y ffaith nad ydy pobl Cymru'n cael unrhyw fewnbwn. Mae'n hollol annerbyniol a gallwn ni ddim parhau i weithredu fel yma. Mae'n rysáit perffaith ar gyfer deddfwriaeth wael. Felly, yn absenoldeb annibyniaeth i'n cenedl, mae'n rhaid inni gael setliad datganoli clir ac mae'n rhaid hefyd i Loegr gael ei Senedd ei hun efo rhaniad clir rhwng pwy sy'n gyfrifol am beth a dim amwysedd. Ydy'r Cwnsler felly yn rhannu fy rhwystredigaeth, a pha gamau mae'r Llywodraeth yma'n eu cymryd er mwyn datrys hyn?