Grŵp A Streptococcus

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:35, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae heintiau strep A yn achosi nifer o afiechydon plentyndod cyffredin. Nid yw'n anarferol gweld achosion yn gysylltiedig â meithrinfeydd ac ysgolion. Mae meithrinfeydd ac ysgolion wedi cael arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae rhieni plant sâl yn cael eu cynghori i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.