Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:25, 7 Rhagfyr 2022

Ocê. Diolch yn fawr iawn. Mae'r ymdeimlad hwnnw yn eithriadol o bwysig, ond gaf i ofyn felly: beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod yr ymdeimlad cenedlaethol hwn, a'r cysylltiad efo'r iaith Gymraeg, yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd ati yn bwysig o ran hynny, ein bod ni ddim jest yn gadael hon yn frwydr i'r siaradwyr Cymraeg, bod hon yn rhywbeth sydd yn bwysig i bawb, lle bynnag eu bo nhw yng Nghymru? Mae yna waith i'w wneud, rydyn ni'n barod i gydweithio a mynd yn bell o ran hyn, ond mae angen i'r Bil addysg y Gymraeg yn sicr fod yn un efo dannedd a sydd yn golygu bod yna newid mawr yn y degawd nesaf yma.