4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol? TQ694
Er bod y data'n siomedig, mae ein hymrwymiad ni i gynyddu defnydd iaith a chyrraedd y miliwn erbyn 2050 yn parhau. Rhaid edrych yn fanwl ar y cyfrifiad a'r holl ffynonellau data eraill, yn enwedig pan fod arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos tuedd ar i fyny a'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad.
Diolch, Weinidog. A hithau'n Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg heddiw, dwi'n meddwl ei bod hi'n addas iawn ein bod ni'n cael y drafodaeth ac, yn amlwg, mae yna fwy o ddata i'w ryddhau o ran y cyfrifiad hefyd, a dwi'n mawr obeithio, gan fod ein pleidiau ni yn cydweithio ar nifer o elfennau pwysig o ran Cymraeg 2050, y gall y deialog hwnnw barhau. Ac, yn amlwg, mae angen mwy o amser i ddadansoddi a deall y data hwnnw'n fanwl. Ond y gwir amdani ydy mae yna lai o siaradwyr Cymraeg o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Mi fedrwn ni ddadlau o ran y sgiliau rhwng tair a 15 oed, ond dyna beth mae'r cyfrifiad yn ddangos i ni am yr ail ddegawd. Mae hynny'n golygu felly ein bod ni yn bellach o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg heddiw nag oeddem ni pan sefydlwyd y targed hwnnw.
Mi fyddwn i'n gofyn felly ein bod ni yn edrych—. Rydyn ni'n gwybod o'r gorffennol o ran targedau fel diddymu tlodi plant erbyn 2020 a beth ydy'r realiti o ran hynny bellach yng Nghymru, bod yn rhaid i ni sicrhau bod sloganau neu nod fel Cymraeg 2050—. Yn amlwg, rydyn ni wastad wedi dweud bod o'n uchelgeisiol, ond rydyn ni hefyd wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf yma, dro ar ôl tro, nifer o awdurdodau lleol, drwy gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ddim yn cyrraedd y targedau roedden nhw wedi gosod eu hunain o ran cyrraedd y nod. Felly, dwi'n meddwl bod rhaid i ni edrych o ddifrif rŵan, wrth i'r cynlluniau newydd o ran cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ddod i rym, sut rydym ni wedyn yn monitro.
Yn amlwg, elfen bwysig o ran y cytundeb cydweithio ydy'r Bil addysg Gymraeg, sydd i fod i sicrhau bod pobl ifanc yn medru gadael ysgol gyda'r Gymraeg. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni edrych o ddifrif ar gryfder y mesur hwnnw o ran sicrhau bod yr hawl elfennol yna ar gael i bawb, oherwydd os ydym ni o ddifrif—rydym ni'n dweud dro ar ôl tro; rydych chi, Weinidog a dwi'n ategu hynny—bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, os mai dim ond tua 20 y cant o'n plant sydd ar hyn o bryd yn cael y cyfle i gael eu haddysgu yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg, sut mae'r Gymraeg felly yn perthyn i bawb?
Dwi wedi cyfarfod nifer o bobl ifanc sydd yn 16, 17, a sydd yn dweud yn barod eu bod nhw'n dyfaru bod nhw heb gael y Gymraeg, eu bod nhw ddim yn hyderus rŵan yn gadael yr ysgol o ran eu sgiliau Cymraeg. Felly, oes, mae yna bethau yn y cytundeb cydweithio eto o ran buddsoddi yn yr oedran hwn, ac mae yna rai pethau calonogol o ran dros 16 a'r Gymraeg, ond fedrwn ni ddim cymryd hynna'n ganiataol. A byddwn i yn gofyn hefyd—. Un o'r pethau rydyn ni wedi trafod droeon hefyd yn y Siambr hon ydy'r pwysigrwydd o ran beth ydy mynediad cydradd i'r Gymraeg a beth mae darpariaeth leol yn ei golygu. A thro ar ôl ar tro, rydyn ni wedi trafod y rhwystrau o ran trafnidiaeth, o ran ysgolion cyfrwng Saesneg newydd sbon yn cael eu hadeiladu, mewn ardaloedd lle mae dirfawr angen ysgolion Cymraeg, ac mae'r rhain yn ysgolion sydd yn cael eu hariannu yn bennaf gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n rhaid i'r Bil addysg Gymraeg hwn fod yn un sydd yn sicrhau bod hynny ddim yn parhau, os ydyn ni o ddifri eisiau sicrhau mynediad cydradd.
Mae'r ymdeimlad a'r balchder mae pobl yn ei deimlo yn y Gymraeg yn sgil cwpan y byd—
Heledd, mae angen ichi ofyn eich cwestiynau nawr, gan fod llawer o gwestiynau eraill gennym i'w gofyn hefyd.
Ocê. Diolch yn fawr iawn. Mae'r ymdeimlad hwnnw yn eithriadol o bwysig, ond gaf i ofyn felly: beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod yr ymdeimlad cenedlaethol hwn, a'r cysylltiad efo'r iaith Gymraeg, yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd ati yn bwysig o ran hynny, ein bod ni ddim jest yn gadael hon yn frwydr i'r siaradwyr Cymraeg, bod hon yn rhywbeth sydd yn bwysig i bawb, lle bynnag eu bo nhw yng Nghymru? Mae yna waith i'w wneud, rydyn ni'n barod i gydweithio a mynd yn bell o ran hyn, ond mae angen i'r Bil addysg y Gymraeg yn sicr fod yn un efo dannedd a sydd yn golygu bod yna newid mawr yn y degawd nesaf yma.
Wel, gwnaf i geisio ymateb i'r ystod eang hynny o sylwadau a chwestiynau. Gwnaeth yr Aelod gychwyn gan ddweud bod y ffigurau'n dangos yn glir ein bod ni'n bellach o'r nod. Mae'n rhaid edrych ar y cyfrifiad, a hefyd y ffynonellau data eraill, sydd yn dangos, fel y gwnes i ddweud ar y cychwyn, bod cynnydd ar yr un amser mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, felly mae angen edrych yn ofalus ar y data i gyd, nid jest rhan o'r data. Ond, ar ddiwedd y dydd, nid mewn rheoliadau nac adolygiadau nac ar ffurflenni mae'r Gymraeg yn mynd i ffynnu. Mae'r ffigurau yn Iwerddon yn dangos bod llawer iawn mwy yn siarad y Wyddeleg nag sydd yn defnyddio'r Wyddeleg. Yr hyn rŷn ni eisiau ei weld yn ein hysgolion ni, yn ein hysbytai ni, ein gwasanaethau cyhoeddus ni, ein gweithleoedd ni, ein tafarndai ni, ein clybiau chwaraeon ni, yw bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn cael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol ym mhob cyd-destun.
Gwnaeth yr Aelod gyfres o sylwadau ynglŷn ag addysg Gymraeg a'r Bil. Wel, mae gennym ni gytundeb yn y cytundeb cydweithio i fynd i'r afael â hynny. Felly, mae proses yn digwydd ar hyn o bryd, fel mae'r Aelod yn gwybod. Mae pobl yn galw am hyn a'r llall; ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw ceisio delifro ar yr agenda go iawn, ac mae gwahoddiad i Blaid Cymru ymuno â ni i wneud hynny. Mae mwy y gellir ei wneud na jest galw; mae cyfle yma i helpu i ddelifro, felly gwahoddiad ichi wneud hynny hefyd.
Ond, ar ddiwedd y dydd, fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei ddweud ddoe: rŷn ni i gyd eisiau sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i unrhyw blentyn yng Nghymru sy'n dymuno cael hynny. Ond, ar ddiwedd y dydd, beth mae ffigurau ddoe yn dweud wrthyf i hefyd yw bod angen uno'r system addysg—cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg—o amgylch ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn gallu gadael yr ysgol, p'un ai'ch bod chi yn addysg cyfrwng Cymraeg neu addysg cyfwng Saesneg, yn medru'r Gymraeg gydag hyfedredd—dyna yw'r cyfle inni yma; pa bynnag fath o addysg rŷch chi'n ei derbyn, bod cyfle ichi adael yn hyderus yn y Gymraeg ac i gau'r bwlch, sydd yn sicr yn bodoli ar hyn o bryd, rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a dysgu Cymraeg yn y system Saesneg. Mae enghreifftiau arbennig, yn y system iaith Saesneg, o bobl yn dysgu'r Gymraeg, ond mae yn anghyson ac mae angen gwella'r safon yn gyffredinol. Felly, dyna'r nod.
Gwnaeth yr Aelod orffen gan ofyn beth ydym ni'n mynd i'w wneud i adeiladu ar yr ymdeimlad sydd o amgylch yr iaith, ac rwy'n cytuno'n llwyr gyda hi, a dyna pam ddylai hi ddim digalonni. Mae'r cyd-destun ar gyfer y ffigurau hyn yn wahanol i beth oedden nhw 10 mlynedd yn ôl. Rôn i'n edrych ar Trydar y bore yma, a Beth Fisher, yn dweud:
'Mae llawer o sôn am y gostyngiad yn y ffigurau, ond dyma fy marn i fel rhywun a atebodd 'na' i'r holl gwestiynau. Er mai ychydig iawn rwy'n ei siarad, ond rwy'n gwneud fy ngorau i geisio dysgu, nid wyf erioed wedi teimlo cysylltiad mor gryf â'n hiaith. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bawn i'n rhugl, ond nid yw'n teimlo fel sefyllfa 'nhw a ni' bellach, fel y teimlai yn y gorffennol, ond yn hytrach, mae wir yn teimlo fel pe baem i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd, ac nid oes cymaint o feirniadaeth, ond mwy o deimlad fod rhywfaint yn well na dim o gwbl'.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud:
'Felly efallai yn ogystal â'r cwestiynau "a allwch chi ddeall, siarad ac ysgrifennu..." yn y cyfrifiad efallai y dylid cael cwestiwn tebyg i "A ydych yn teimlo cysylltiad â'r Gymraeg?" Ac i hynny',
mae hi'n ei ddweud,
'Byddwn yn bendant wedi dweud "Ydw".'
Dwi'n siarad Cymraeg bob dydd, ond, fel mae Aelodau yma'n ei wybod, ddim yn dda iawn. Rwy'n gwybod hefyd bod plant mewn ysgolion cynradd ar draws Abertawe hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd yn yr ysgol. Dau gwestiwn: ydyn ni'n gofyn y cwestiwn cywir ar y cyfrifiad? Ddylem ni ofyn pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg?
Ac yn Saesneg, beth yw'r gydberthynas rhwng nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg rhwng tair a 18 oed a'r rhai sy'n dangos eu bod yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn, rwy'n credu, os dŷch chi moyn mynd i'r afael â beth sy'n digwydd yn y ffigurau yma. Dyw'r cyfrifiad ddim yn dweud unrhyw beth wrthym ni am ddefnydd o'r Gymraeg, a dyw e ddim yn dweud unrhyw beth wrthym ni am ganfyddiad pobl o beth yw e i fod yn gallu siarad Cymraeg. Felly, mae'n gofyn cwestiwn sydd yn binary ar ddiwedd y dydd: ydych chi'n siarad Cymraeg ai peidio? Ond, yn fy marn bersonol i, mae angen edrych ar y ffigurau hyn mewn cyd-destun, fel rwy'n ei ddweud. Hynny yw, os dŷch chi'n cael dogfen swyddogol wrth y Llywodraeth, sy'n orfodol i'w hateb, a'i hateb yn onest, ac mae hynny'n gofyn cwestiwn i chi, 'A ydych chi'n medru'r Gymraeg?', mae cwestiynau o ganfyddiad, cwestiynau o hyder, yn dod mewn i'r ymateb hwnnw. Ac os edrychwch chi ar ble mae'r gostyngiad wedi bod fwyaf, mae e wedi digwydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle mae llai o concentration o siaradwyr Cymraeg, felly byddai hynny'n gyson â'r syniad rwyf newydd ei awgrymu. Ond hefyd, mae'r arolygiad blynyddol yn gofyn mwy o gwestiynau sy'n gallu cael y manylder y mae Mike Hedges yn sôn amdano fe. Felly, dyna pam mae hi'n bwysig i ni weld y cyd-destun cyfan wrth ein bod ni'n mynd i drafod y maes pwysig hwn.
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Rwy'n siŵr, Weinidog, eich bod yn rhannu fy mhryderon bod y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi ddoe yn hynod siomedig—fe ddywedoch chi hynny ar Twitter dwe, ac wrth ymateb i Heledd hefyd. Mae fy mhryderon am atebolrwydd y targed hwn yn cael eu cadarnhau unwaith eto gan y ffigurau diweddaraf hyn. Fel y dywedais o'r blaen, mae 'Cymraeg 2050' yn darged na fydd un o Weinidogion presennol Llywodraeth Cymru yn atebol amdano pan fyddwn yn cyrraedd y flwyddyn 2050. Mewn 28 mlynedd, pwy ddylai fod yn atebol os yw'r targed hwn yn cael ei gyrraedd neu beidio? Yn bwysicach fyth, pwy neu beth sydd ar fai heddiw? Fel yr ydym wedi ei ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae'n bwysig ein bod yn rhoi negeseuon positif am yr iaith, gan ddangos bod yr iaith yn cŵl, yn fodern, ac yn gallu cael ei defnyddio yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Dim ond trwy fynd i'r afael â'r her yn y ffordd hon y gallwn sicrhau bod yr iaith fwyaf hardd ar y ddaear yn gallu ffynnu yn ein mamwlad. Felly, a fydd y wybodaeth o'r cyfrifiad yn gweld Llywodraeth Cymru yn newid unrhyw ran o'r polisïau iaith Gymraeg? Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno â Sam Kurtz—mae hi'n bwysig ein bod ni'n ffeindio ffyrdd o hyrwyddo'r Gymraeg, a pharhau i ffeindio ffyrdd creadigol o wneud hynny, fel ei bod hi'n cŵl ac yn fodern i'r rheini sy'n mynd i glywed y neges honno'n bositif, efallai. Ond mae lot o ffyrdd i allu gwneud hynny. Fe ges i drafodaeth ddiddorol a chreadigol iawn y bore yma gyda chyngor partneriaeth y Gymraeg ynglŷn â sut i ymateb i rai o'r canlyniadau y gwnaethom ni eu gweld ddoe.
O ran strategaeth 'Cymraeg 2050', a dweud y gwir, dwi ddim yn credu bod y ffigurau a welsom ni ddoe yn dangos llawer i ni am beth sydd wedi digwydd yn y strategaeth honno. Os ydych chi'n meddwl amdano fe, dim ond rhyw ddwy flynedd ers datgan y polisi oedd cyn bod COVID yn dechrau, ac mae'r cyfrifiad wedi cael ei gymryd ynghanol COVID. Felly, rwy'n credu bod angen gweld y cyd-destun ehangach ar hynny hefyd. Ac mae ystod o bethau hefyd wedi digwydd ers y cyfrifiad fis Mawrth diwethaf. Ond, yn sicr, rwyf wedi dweud o'r cychwyn cyntaf bod yn rhaid edrych eto ar y taflwybr tuag at 2050 yn sgil beth bynnag fyddai'r ffigurau heddiw, pe baen nhw'n dangos cynnydd neu'n dangos gostyngiad, a dyna'n sicr yw'r nod i'w wneud o hyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Y cwestiwn nesaf gan Laura Anne Jones, a fydd yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol.