Grŵp A Streptococcus

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:41, 7 Rhagfyr 2022

Diolch am yr ymateb yna gan y Gweinidog. Roeddwn i eisiau gofyn hefyd ynglŷn â'r prinder o dabledi gwrthfiotig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ateb eithaf cynhwysfawr yn fanna gan y Gweinidog. Dau gwestiwn arall gen i, eto ynglŷn â'r cyfathrebu. Roeddwn yn falch o weld y datganiad yn dod neithiwr. Dwi wedi rhannu hwnnw ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, yn fy etholaeth i, a dwi'n siŵr bod Aelodau eraill yn gwneud yr un fath, ac mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni mewn ysgolion. Ond beth ydy'r cynllun cyfathrebu wrth symud ymlaen? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod yna gynllun cyfathrebu mewn lle i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n gyson, oherwydd dydy'r pryder yma ddim yn mynd i fynd i ffwrdd. A'r elfen olaf dwi eisiau holi amdani ydy'r pwysau ychwanegol, dwi'n deall, sydd yna ar adrannau brys mewn ysbytai. Oherwydd diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth o bosib, mae'n berffaith hawdd deall pam y byddai mwy o rieni yn mynd â'u plant i adrannau brys pan fo yna unrhyw arwydd o rywbeth maen nhw'n bryderus ynglŷn ag o, ond, os ydy hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar yr adrannau brys hynny, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod yna gymorth ychwanegol yn cael ei roi i alluogi ysbytai i ddelio ac i ymdopi efo hynny?