Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr. A gaf fi ychwanegu fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r teulu sydd wedi colli plentyn yn ddiweddar? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall pryder gwirioneddol llawer o rieni heddiw oherwydd y cynnydd a welwn mewn achosion o strep A yn ein cymunedau.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i ysgolion a meithrinfeydd ddiwedd mis Tachwedd. Dylai staff fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o'r haint hwn mewn plant sy'n sâl gyda thwymyn, dolur gwddf neu frech. Felly, mae'r cyngor hwnnw wedi'i ddarparu eisoes. Cynghorir rhieni plant sâl i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Bydd gofyn i blentyn sydd wedi cael y dwymyn goch gadw draw o'r lleoliad am 24 awr ar ôl dechrau triniaeth wrthfiotig briodol. Lle ceir dau neu fwy o achosion o'r dwymyn goch mewn lleoliad o fewn yr un cyfnod o 10 diwrnod, gofynnir i ysgolion a meithrinfeydd hysbysu'r tîm diogelu iechyd lleol am arweiniad pellach. Ar y pwynt hwnnw, byddant yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a oes angen rhoi gwrthfiotigau i'r dosbarth cyfan neu i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad agos yn unig. Yn amlwg, byddant yn gwneud asesiad i weld a oes angen pediatregydd bryd hynny.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod graddau yma, ac yn amlwg nid yw ond yn wirioneddol beryglus pan fo pethau'n mynd yn gymhleth iawn. Pan gewch strep A ymledol, dyna pryd y mae gwir angen inni fod yn bryderus. Ond yn amlwg, mae cymryd y gwrthfiotigau hynny ar adeg briodol yn golygu y gall pobl gael cymorth.
O ran prinder gwrthfiotigau, y newyddion da yw y gall pob un o'r afiechydon cymharol ysgafn a achosir gan strep A gael eu trin â gwrthfiotigau cyffredin. Yn amlwg nawr rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wrthfiotigau i drin yr achosion tybiedig o strep A, ac mae hynny wedi arwain at brinder stoc i rai fferyllfeydd yng Nghymru. Nawr, rydym yn hyderus fod cyflenwyr yn gweithio i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyflenwi, ac os yw pobl yn cael trafferth cael presgripsiwn yn lleol, efallai y bydd angen iddynt ymweld â fferyllfa wahanol, ac os ydynt yn dal i fethu cael gafael arnynt, gallant fynd yn ôl at y meddyg teulu a gallant bresgripsiynu triniaeth amgen. Felly, rydym yn gweithio gyda thîm cyflenwi meddyginiaethau Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr fod gan fferyllfeydd Cymru y cyflenwadau sydd eu hangen arnynt.