Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Dwi'n siarad Cymraeg bob dydd, ond, fel mae Aelodau yma'n ei wybod, ddim yn dda iawn. Rwy'n gwybod hefyd bod plant mewn ysgolion cynradd ar draws Abertawe hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd yn yr ysgol. Dau gwestiwn: ydyn ni'n gofyn y cwestiwn cywir ar y cyfrifiad? Ddylem ni ofyn pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg?