Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
'Mae llawer o sôn am y gostyngiad yn y ffigurau, ond dyma fy marn i fel rhywun a atebodd 'na' i'r holl gwestiynau. Er mai ychydig iawn rwy'n ei siarad, ond rwy'n gwneud fy ngorau i geisio dysgu, nid wyf erioed wedi teimlo cysylltiad mor gryf â'n hiaith. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bawn i'n rhugl, ond nid yw'n teimlo fel sefyllfa 'nhw a ni' bellach, fel y teimlai yn y gorffennol, ond yn hytrach, mae wir yn teimlo fel pe baem i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd, ac nid oes cymaint o feirniadaeth, ond mwy o deimlad fod rhywfaint yn well na dim o gwbl'.