– Senedd Cymru am 3:56 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf, Jayne Bryant.
Neithiwr, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, cefais y fraint o ymuno ag Aelodau, Diabetes Cymru a theulu Peter Baldwin yn y Senedd i ddathlu bywyd a gwaddol Peter Baldwin wrth inni nesáu at yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd iddo yn ugain oed. Roedd Peter yn 13 ar 10 Rhagfyr 2014. Roedd yn caru bywyd, yr ysgol a'i ffrindiau. Roedd yn blentyn ffit ac iach yn ei arddegau a oedd, fel y clywsom gan ei chwaer neithiwr, yn hoff iawn o hufen iâ, ac roedd ganddo'r byd i gyd wrth ei draed. Yn drasig, bu farw Peter ychydig wythnosau'n ddiweddarach oherwydd cymhlethdodau'n deillio o'r ffaith bod ei ddiagnosis o ddiabetes wedi digwydd yn rhy hwyr.
Ers ei farwolaeth, mae ei fam Beth wedi ymgyrchu'n ddiflino i helpu i godi ymwybyddiaeth ac atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr un drasiedi. Drwy rannu ei stori, mae Beth wedi annog eraill i gael eu plentyn wedi'i archwilio am ddiabetes cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Mae ymdrechion Beth a gwaddol Peter yn wirioneddol ysbrydoledig a phellgyrhaeddol. Bydd bywydau wedi cael eu hachub o'u herwydd.
Un enghraifft yn unig o hyn yw'r ymgyrch 4T ar ei newydd wedd. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y pedwar symptom i edrych amdanynt wrth wneud diagnosis o ddiabetes: toiled—mynd yn amlach; blinedig; sychedig; a mynd yn deneuach. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth o'r symptomau ac wedi ysgogi rhieni ac oedolion fel ei gilydd i ofyn am brawf ar gyfer diabetes. Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud yn y maes hwn gan grwpiau fel Diabetes UK ac ymgyrchwyr fel teulu Peter Baldwin. Rwy'n cymeradwyo eu hymdrechion ac yn annog pob Aelod i wneud yr hyn a allant i ledaenu ymwybyddiaeth o symptomau'r clefyd hwn. Mae'n gallu gwneud y byd o wahaniaeth.
Ar Ddydd Nadolig eleni, wrth inni wledda ar dwrci a mins-peis, bydd un garreg filltir nodedig yn digwydd yng Nghaerfyrddin wrth i Radio Glangwili ddathlu hanner can mlynedd o ddarlledu. Sbardun y gwasanaeth oedd cyfarfod o aelodau'r Urdd yn dod at ei gilydd ac, o fewn dim, o dan arweiniad Sulwyn Thomas a Gerwyn Griffiths ac eraill, aethpwyd ati i ddarlledu'r rhaglen gyntaf ar Ddydd Nadolig 1972. Dwy awr oedd ei hyd, gan gyfuno cyfarchion i gleifion ar y wardiau a chyfraniadau arbennig gan hyfforddwr tîm rygbi'r Llewod, Carwyn James, a'r gantores, Rosalind Lloyd.
Dros y degawdau, aeth yr orsaf o nerth i nerth. Datblygodd gyda'r newid technolegol, gan dyfu o stiwdio fach yn yr ysbyty i stiwdio bwrpasol. Mae'r orsaf erbyn hyn yn darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amrywiol arlwy yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r orsaf hefyd wedi torri record byd ar gyfer darlledu am 24 awr yn ddi-dor, y cyntaf i wneud hyn yn yr iaith Gymraeg. Cleifion a staff yr ysbyty sydd wedi bod yn cynnal yr orsaf, gyda'r gwasanaeth yn llwyddo i gynnig cysur ac adloniant iddyn nhw ar hyd y blynyddoedd. Diolch o galon i'r gwirfoddolwyr yno sydd wedi gweithio mor ddiwyd i sicrhau llwyddiant yr orsaf. Pob dymuniad da ar gyfer yr 50 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.
Cyn inni symud i'r eitem nesaf, hoffwn atgoffa'r Aelodau nad yw'r clociau i'w gweld ar y sgriniau yn anffodus, ond gallaf eich sicrhau y byddaf yn cadw llygad barcud ar yr amseru i wneud yn siŵr fod pawb yn cadw at yr amser.