Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Rwy'n ddiolchgar, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn y maes penodol hwn, ond mae deddfwriaeth, ac ymgorffori rhywbeth mewn deddfwriaeth, yn rhoi hawliau go iawn i bobl. Dyna pam mae'r Aelod wedi dod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cefnogi neu weithio gyda'r Aelod i gyflwyno cynnig deddfwriaethol a fydd yn y pen draw yn ymgorffori'r hawliau hynny ac yn gwneud y naid ymlaen yn y gwelliannau rydym i gyd am eu gweld ar gyfer pobl ag anableddau clyw?