7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau — 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 4:36, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd ymgyrch Leeanne yn un o’r ymgyrchoedd cyntaf i gysylltu â mi fel Aelod newydd ei ethol; pan sgroliais yn ôl drwy Messenger, gwelais mai David ei hun a gysylltodd â mi. Nawr, roedd hynny yn 2021, ac rwy'n falch iawn ein bod yma nawr ar y pwynt hwn. Nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu at gyfraniad y Cadeirydd, ond credaf fod y gwaith a wnaethom fel pwyllgor wedi’i werthfawrogi’n fawr nid yn unig gan Leeanne a’i theulu, ond hefyd gan deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid drwy foddi.

Fel pwyllgor, gwnaethom gynnal paneli gyda theuluoedd a oedd wedi cael profiadau tebyg i Leeanne, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd ganddynt yn amhrisiadwy a chafodd ei gwerthfawrogi’n fawr, yn enwedig o ystyried natur drallodus eu tystiolaeth. Maent hwy, fel Leeanne a chymaint o rai eraill a ddewisodd ymgysylltu â ni fel pwyllgor, yn ffynhonnell gyson o ddewrder, ysbrydoliaeth a grym i’r rheini sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'n un o'r pethau gorau am fod yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau: gallu ymgysylltu â phobl fel Leeanne a'u helpu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yma yn ein Senedd.

Ar yr argymhellion ac ymateb y Llywodraeth, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion, ac un mewn egwyddor. Credaf fod y dystiolaeth a gasglwyd yn cyfeirio at beth o'r gwaith da a wneir eisoes gan sefydliadau amrywiol fel Dŵr Cymru, fel y gwasanaeth tân, wrth weithio i wella diogelwch dŵr. Ond yr hyn a oedd ar goll yn fy marn i oedd y meddwl cydgysylltiedig a chydlyniad mewn rhaglenni addysgol. Fodd bynnag, roedd yr awydd am y cydlyniad hwnnw'n amlwg i bob un ohonom.

Roedd hefyd yn amlwg fod cyllid yn broblem, yn benodol wrth gymharu â’r cyllid a roddwyd yn Lloegr ar gyfer diogelwch dŵr, ac rwy’n arbennig o falch fod diogelwch dŵr bellach yn cael ei ddyrannu i Weinidog penodol. Roedd yn amlwg iawn fod angen hynny, fod angen yr arweiniad uniongyrchol hwnnw arnom ar hyn. Mae'n beth arall, wrth gwrs, i'w ychwanegu at y portffolio newid hinsawdd, ond mae'n bwysig iawn ein bod wedi gwneud hynny.

Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch eto i'r rheini a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr holl waith a wnaed i sicrhau bod ein hadroddiad yn cael ei gwblhau, ac rwyf am gloi drwy ddweud nad dyma ddiwedd y broblem, a fy mod yn credu ei bod hefyd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i gymryd rhan yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o beryglon crynofeydd dŵr agored. Fel Aelodau etholedig, mae gennym ddyletswydd i helpu sefydliadau yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau, yn ogystal â’r Llywodraeth, i godi ymwybyddiaeth.