8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith — 'Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:56, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ar ddechrau’r chweched Senedd, cytunodd y pwyllgor i graffu ar weithrediad parhaus y mesurau interim diogelu’r amgylchedd sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n cofio, rwy’n siŵr, fod y mesurau hyn wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â phryder eang am y bwlch llywodraethu amgylcheddol sydd ar ddod yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r mesurau'n darparu mecanwaith i'r cyhoedd gyflwyno cwynion i asesydd interim diogelu'r amgylchedd annibynnol am weithrediad cyfraith amgylcheddol. Ar ôl ystyried unrhyw gwynion o’r fath, gall yr asesydd interim argymell wedyn fod y Gweinidog yn rhoi camau ar waith, gyda’r bwriad o wneud gwelliannau i’r gyfraith. Mae ein hadroddiad yn ymdrin â blwyddyn lawn gyntaf gweithrediad y mesurau interim a chafodd ei lywio gan dystiolaeth gan randdeiliaid amgylcheddol allweddol a chan Dr Nerys Llewelyn Jones, yr asesydd interim, a ymddangosodd ger bron y pwyllgor ym mis Mehefin eleni.

Fel pwyllgor, gwnaethom wyth argymhelliad, dau i’r asesydd interim a chwech i Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd pob un ohonynt yn llawn, felly hoffem ddiolch i’r Gweinidog a’r asesydd interim am eu hymatebion cadarnhaol. Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd ar wasanaeth yr asesydd interim, rydym wedi ein calonogi gan faint y mae wedi'i gyflawni yn ei flwyddyn gyntaf, a chyda chapasiti cyfyngedig ac adnoddau cyfyngedig hefyd, mewn gwirionedd. Er bod y gwasanaeth wedi profi rhai problemau cychwynnol, ar y cyfan, mae wedi llwyddo i oresgyn y rhain. Ond mae lle i wella o hyd, wrth gwrs, fel y gwelir yn ein hadroddiad.

Mae'r mesurau interim yn cyflawni swyddogaeth bwysig, ac mae ganddynt botensial i helpu i wella gweithrediad cyfraith amgylcheddol. Ond wrth gwrs, nid ydynt yn cymharu â system lywodraethu amgylcheddol yr UE. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth o berfformiad yr asesydd interim na gwaith y gwasanaeth hyd yma. Mae’n feirniadaeth, fodd bynnag, o Lywodraeth Cymru am fethu blaenoriaethu deddfwriaeth er mwyn sefydlu corff goruchwylio i Gymru sy’n gwbl weithredol ac wedi'i ariannu'n dda.

Wrth inni aros yn gynyddol ddiamynedd i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, mae gan holl wledydd eraill y DU gyrff goruchwylio statudol ar waith bellach. Er nad ydynt yn berffaith, mae'r cyrff hyn yn darparu swyddogaethau llywodraethu allweddol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth a gorfodi, ac yn cynnal hawliau dinasyddion i gael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol. Felly, Weinidog, onid yw dinasyddion Cymru yn haeddu’r un peth? Rwy’n siŵr eu bod, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, ac rwy’n siŵr y byddwch yn ymhelaethu pan fyddwch yn ymateb. Ond ni ellir israddio enw da Cymru o fod yn genedl lle mae'r amgylchedd a datblygu cynaliadwy yn hollbwysig i fod yn genedl sydd â'r strwythurau llywodraethu amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.

Nawr, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod penodiad yr asesydd interim wedi’i ymestyn am flwyddyn, hyd at fis Chwefror 2024. Ni ellir dychmygu na fydd corff goruchwylio statudol ar waith cyn hynny. Ond gydag ychydig dros flwyddyn i fynd, a heb unrhyw dystiolaeth o unrhyw gynnydd gwirioneddol tuag at ddatblygu cynigion deddfwriaethol, y teimlad yw nad yw pethau'n edrych yn addawol. Felly, ymddengys y bydd y mesurau interim ar waith yn hirach na'r disgwyl, ac i lawer, yn hirach nag sy'n dderbyniol. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig gwneud y gorau o'r hyn sydd gennym, a gwnaed ein hargymhellion yn ein hadroddiad gyda hyn mewn golwg, wrth gwrs.

Felly, yn gryno, nod argymhellion 2 a 3 yw gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaeth a chynyddu tryloywder yn ei waith. Ac rydym yn falch o glywed bod yr asesydd interim eisoes wedi gwneud cynnydd ar fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn.

Gan droi at ein hargymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae argymhelliad 5 yn galw am adolygiad brys o’r adnoddau sydd ar gael i’r asesydd interim, gan adlewyrchu'r galw mawr am y gwasanaeth a’r angen i sicrhau allbynnau amserol ar ffurf adroddiadau. Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, sy’n ddechrau da iawn. Fel y nodir yn glir yn ein hadroddiad, mae'n rhaid cwblhau'r adolygiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch roi syniad i ni o sut mae’r gwaith hwn yn dod yn ei flaen wrth ichi ymateb i’r ddadl hon.

Gan symud ymlaen at y broses o ymdrin ag adroddiadau gan yr asesydd interim, rydym yn pryderu nad yw hyn yn ddigon eglur. Er ein bod yn cydnabod nad oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i adroddiadau ac argymhellion yr asesydd, mae'n rhaid iddi ymrwymo i wneud hyn. Rydym o'r farn fod proses sydd wedi’i diffinio’n glir yn hanfodol i sicrhau tryloywder, i gryfhau atebolrwydd ac i feithrin hyder y cyhoedd yn y mesurau interim wrth gwrs. Mae argymhellion 6 a 7 yn ein hadroddiad yn mynd i’r afael â’r mater hwn.

Yn olaf, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae'n monitro effeithiolrwydd y mesurau interim, gan gynnwys eu heffaith ar ganlyniadau amgylcheddol. Yr ateb byr yw nad yw'n gwneud hynny. Felly, Weinidog, sut y byddwch yn gwybod sut beth yw llwyddiant oni bai bod trefniadau monitro addas ar waith i’w fesur?

Bydd yr Aelodau’n gweld bod ein hargymhellion yn ymwneud i raddau helaeth â mireinio’r mesurau interim i sicrhau eu bod cystal ag y gallant fod. Ond ni waeth pa mor effeithiol y gallai'r mesurau hyn fod, rydym yn glir nad ydynt yn gwneud y tro yn lle corff goruchwylio amgylcheddol parhaol. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn drwy weddill tymor y Senedd hon. Diolch.