Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau'n ddiwyro ar bob adeg o'r flwyddyn. Mae cyfanswm ein buddsoddiad mewn atal digartrefedd a chymorth tai dros £197 miliwn eleni, gan helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael heb y cymorth na'r llety sydd eu hangen arnyn nhw.