Gwasanaethau Atal Digartrefedd

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau atal digartrefedd dros gyfnod y Nadolig? OQ58891

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau'n ddiwyro ar bob adeg o'r flwyddyn. Mae cyfanswm ein buddsoddiad mewn atal digartrefedd a chymorth tai dros £197 miliwn eleni, gan helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael heb y cymorth na'r llety sydd eu hangen arnyn nhw. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Nid yw wedi bod mor hir â hynny ers i wasanaethau digartrefedd wynebu senario hunllefus yn ystod y pandemig, a dyma nhw eto yn wynebu un arall. Hoffwn dynnu sylw at achos Keith, etholwr ym Maesteg, a gysylltodd yn ddiweddar am gymorth gan ei fod ef a'i wraig mewn sefyllfa o argyfwng ar ôl cael hysbysiad adran 21 yn ddiweddar, yr aeth ei ddyddiad terfyn heibio ym mis Tachwedd. Maen nhw bellach yn wynebu'r posibilrwydd o aeaf yn chwilio am lety sydd â mynediad i bobl anabl, gan ymdrin ag anghenion lluosog a chymhleth. Ond o ystyried difrifoldeb y sefyllfa bresennol, ac o ystyried bod tua 25,000 o eiddo gwag yma yng Nghymru, a yw hi bellach yn bryd cael cynllun gweithredu cenedlaethol gan y Llywodraeth ar eiddo gwag i helpu i atal achosion gofidus fel un Keith yn y dyfodol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae bod o dan fygythiad o fod yn ddigartref ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn straen aruthrol, fel y bydd unrhyw un yn y Siambr hon sy'n gwneud gwaith achos rheolaidd yn gwybod. Ond mae wynebu hynny dros gyfnod y Nadolig, pan ydych chi'n ofni efallai na fydd gwasanaethau ar gael, yn fwy heriol fyth, rwy'n siŵr, i unrhyw un. Ceir dwy agwedd ar hyn, Llywydd, wrth gwrs. Ceir y galw ar y naill ochr, ac mae'r galw yn y system wedi codi'n ddiwrthdro dros y flwyddyn galendr hon. Ym mis Ionawr, cyflwynodd 1,100 o bobl eu hunain i awdurdodau lleol fel rhai o dan fygythiad o fod yn ddigartref neu'n ddigartref mewn gwirionedd. Cododd i 1,200 ym mis Chwefror, i 1,300 ym mis Mawrth. Roedd yn 1,400 erbyn mis Awst, 1,500 ym mis Medi, ac rwy'n credu y bydd y gyfres nesaf o ffigurau yn dangos ei fod wedi codi i dros 1,600. Mae'r hwn yn ymchwydd enfawr i'r galw sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i awdurdodau lleol gyflawni eu cyfrifoldebau, ac mae'n rhaid mai rhan o'r ateb i hynny yw cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Mae gennym ni ymrwymiad o 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon. Rydym ni'n gweithredu i fuddsoddi £65 miliwn mewn llety trosiannol, drwy gynnwys £30 miliwn o hynny yn yr ardal o Gymru a gynrychiolir gan Luke Fletcher, fel buddsoddiad o £30 miliwn mewn cynllun prydlesu i Gymru, ond, hefyd—ac mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud—y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddefnyddio tai gwag unwaith eto. A cheir rhai enghreifftiau arwyddocaol iawn o hynny ledled Cymru—un rhagorol yn sir Benfro a'r ardal a gynrychiolir gan ein cyd-Aelod Paul Davies, lle llwyddodd yr awdurdod lleol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio nifer fawr o eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Ac mae'r gwaith a wnaed yng nghymunedau'r Cymoedd, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog Lee Waters, yn enghraifft arall o sut y gallwn ni, ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol, fuddsoddi mewn gwneud yn siŵr bod tai sydd fel arall yn sefyll yn wag yn cael eu defnyddio'n fuddiol.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 1:34, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i yn gyntaf oll ymuno â chi, Prif Weinidog, i roi clod i'r awdurdodau lleol hynny am y gwaith y maen nhw eisoes yn ei wneud i geisio atal digartrefedd, ond cydnabod yr her sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig hwn? Fel y gwyddom, mae tua 14,000 o bobl yng Nghymru mewn llety dros dro ar hyn o bryd, ac wrth gymryd tystiolaeth drwy'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ddiweddar, fe wnaeth cynghorau ac arweinwyr cynghorau, gan gydnabod bod cyllid yn rhan o'r her honno—fel rydych chi wedi ei nodi eisoes—sôn am y diffyg cyflenwad tai y maen nhw'n ei gael yn arbennig o heriol ar hyn o bryd. Ac fe wnaethoch chi sôn am yr uchelgais i ddarparu'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel hynny, ond ceir rhwystrau ar hyn o bryd y mae datblygwyr yn eu hwynebu i ddarparu'r cartrefi hynny, ac mae un o'r rheini yn ymwneud â'r rheoliadau ffosffad. A cheir enghraifft yn fy rhanbarth i, y gogledd, lle mae tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu mewn cae ar ochr Lloegr o'r ffin, ac mewn cae ar ochr Cymru o'r ffin, ni ellir adeiladu'r tai hynny oherwydd y rheoliadau ffosffad sydd yno. Felly nid yw pobl yng Nghymru yn cael y tai wedi'u hadeiladu sydd eu hangen ar eu cyfer. Felly, tybed, Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i gyflymu'r uchelgais hwn i ddarparu'r cartrefi hynny, yn hytrach nag ein bod ni'n sefyll yma eto, ymhen dwy a thair blynedd, yn sôn am yr her ddigartrefedd yr ydym yn ei hwynebu.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r mater ffosffadau yn un go iawn, Llywydd. Llwyddais i gael cyfarfod gyda'r prif ffigyrau yn y maes hwn yn y Sioe Frenhinol yn gynharach eleni, ac mae cyfarfod dilynol gyda'r holl ffigyrau hynny wedi'i drefnu ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd. Mae hynny i wneud yn siŵr bod yr holl sefydliadau hynny sydd â rhan i'w chwarae i ddatrys y mater ffosffadau yn gallu gwneud hynny, ac nad oes neb yn treulio'u hamser yn pwyntio bys at rywun arall a dweud, 'Pe bai nhw ond yn gwneud rhywbeth, yna gellid datrys y broblem hon'. Nawr, roedd yr ysbryd yn y cyfarfod yn Llanelwedd yn llawer gwell na hynny; roeddwn i'n meddwl bod pobl wedi dod gyda'r bwriad gwirioneddol o ddatblygu'r pethau yr oedden nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Yr hyn na all yr ateb fod, Llywydd, yw caniatáu i adeiladu tai ddigwydd mewn mannau heb gynllun i wneud yn siŵr nad yw'r gwaith adeiladu tai hwnnw'n ychwanegu at y lefelau llygredd sydd eisoes yn ormodol mewn afonydd yng Nghymru. Mae'r argyfwng llygredd yr ydym yn ei wynebu mewn rhai rhannau o Gymru yn gwbl real, ac ni allwn wneud hynny'n waeth er mwyn gwneud rhywbeth arall yn well. Ond rydym ni'n gwybod os bydd pob sefydliad yn gwneud ei gyfraniad, ei bod hi'n bosibl parhau i ddatblygu tai newydd ar dir na fyddai ar gael at y diben hwnnw fel arall, ond mae'n dibynnu, fel y dywedais, ar gasglu'r holl wahanol gyfraniadau hynny ynghyd a goresgyn y rhwystrau presennol sy'n bodoli ac yn atal datblygiadau yr hoffem ni eu gweld yn mynd rhagddynt.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:37, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, tybed a oeddech chi wedi gwneud asesiad o ganlyniadau hanner blwyddyn Banc Datblygu Cymru, ac, yn benodol, ei fuddsoddiad mewn prosiectau tai, gan gynnwys y cynllun cymorth prydlesi, a fydd yn sicrhau eiddo hirdymor newydd i'w rhentu gan awdurdodau lleol, gan helpu wedyn i atal digartrefedd.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Rwy'n cofio'n eglur iawn ymweliad a wnaeth ef a minnau â phencadlys Banc Datblygu Cymru yn Wrecsam, ac mae wedi bod yn un o lwyddiannau eithriadol y degawd diwethaf. Cyhoeddwyd y canlyniadau hanner blwyddyn, fel y dywedodd Ken Skates, yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Maen nhw'n dangos tuedd gref barhaus o fuddsoddiad uniongyrchol y mae'r banc yn gallu ei wneud, ond hefyd y ffordd y mae'r banc yn gallu rhoi ar waith ochr yn ochr ag ef fuddsoddiadau eraill o ffynonellau preifat. Un o'r meysydd lle mae'r banc wedi gallu defnyddio cyfalaf trafodion ariannol, er enghraifft, fel y dywedodd Ken Skates, fu yn y cynllun prydlesu. Nawr, mae'r cynllun prydlesu yn rhan bwysig iawn o gynyddu'r cyflenwad hwnnw o dai i'w rhentu y mae cyd-Aelodau eraill yma wedi sôn amdano y prynhawn yma. Mae'n caniatáu i awdurdodau lleol gymryd cyfrifoldeb am eiddo sydd fel arall yn y sector rhentu preifat, ac i fuddsoddi yng nghyflwr y cartrefi hynny fel y gellir eu gosod nid yn unig ar gyfer y byrdymor, ond ar gyfer y tymor canolig a'r hirdymor, gan ychwanegu at y cyflenwad o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy yn yr ardaloedd hynny. Ac mae'r rhan y mae Banc Datblygu Cymru wedi ei chwarae o ran caniatáu i hynny ddigwydd wedi bod yn llinyn ychwanegol i'r bwa y mae'n eu defnyddio beth bynnag trwy Cymorth i Brynu a rhannau eraill o'r dirwedd dai, lle mae gweithredoedd y banc wedi bod yn bwysig iawn i gynnal y sector hwnnw yn ystod cyfnod heriol.