Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Prif Weinidog, tybed a oeddech chi wedi gwneud asesiad o ganlyniadau hanner blwyddyn Banc Datblygu Cymru, ac, yn benodol, ei fuddsoddiad mewn prosiectau tai, gan gynnwys y cynllun cymorth prydlesi, a fydd yn sicrhau eiddo hirdymor newydd i'w rhentu gan awdurdodau lleol, gan helpu wedyn i atal digartrefedd.