Cyfrifiad 2021

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:39, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, mae canlyniadau o gyfrifiad 2021 wedi dechrau cael eu cyhoeddi, ond nid yw gwybodaeth allweddol, fel gwybodaeth am ddaliadaeth tai, wedi'i chyhoeddi eto. Bydd y darlun llawn yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i gryfhau'r adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' nesaf, sy'n un o brif ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.