Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:05, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Ddoe, roedd hi'n bedair blynedd ers i chi ddechrau ar eich swydd yn Brif Weinidog. Yn y cyfnod hwnnw, rydym ni wedi gweld gwelliant i sefyllfa rhai o'n cymunedau—. Nid ydym wedi gweld gwelliant—. Dydw i ddim hyd yn oed yn gallu darllen fy nghwestiwn, mae'n ddrwg gennyf i. Fe wnaf i ddechrau eto. [Chwerthin.] Ie. Yn y cyfnod hwnnw, nid ydym wedi gweld gwelliant i sefyllfa rhai o'n cymunedau tlotaf. A dweud y gwir, mae wedi gwaethygu'n fawr iawn i lawer, ac mae'n debyg y bydd yn dirywio hyd yn oed ymhellach. Wrth ymweld â phobl yn fy rhanbarth i, rwy'n gweld y dirywiad hwn yn uniongyrchol mewn llawer o gymunedau, y mae rhai ohonyn nhw'r cymunedau tlotaf yn y wlad. Mae'n wir mai San Steffan a system nad yw byth yn cydnabod nac yn blaenoriaethu Cymru sydd ar fai am lawer o hyn, ond rydych chi'n dal i ddal gafael ynddi beth bynnag. Ond mae pethau y gallwn ni eu gwneud yma yng Nghymru. Byddai strategaeth wrthdlodi yn ddechrau gwych. Prif Weinidog, pam nad ydych chi wedi rhoi un ar waith yn ystod pedair blynedd ddiwethaf eich arweinyddiaeth i gymryd lle'r strategaeth wrthdlodi a ddiddymwyd gan eich Llywodraeth yn 2017?