1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2022.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu economi Abertawe? OQ58857
Buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau a busnesau newydd yw'r cynhwysion hanfodol yng nghamau'r Llywodraeth i ddatblygu ein heconomi. Mae rhaglen ardal ddigidol bargen ddinesig bae Abertawe, wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn enghraifft o sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i gefnogi datblygiad economaidd a thwf.
Ar 1 Rhagfyr, roeddwn i, ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, yn agoriad swyddogol swyddfa Veeqo yn Technium 2, ar ôl i Amazon eu cymryd nhw drosodd—hanes o lwyddiant i ddod â swyddi cyflog uchel i Abertawe. Digwyddodd hyn yn rhannol o leiaf oherwydd y graddedigion sy'n cael eu cynhyrchu a chefnogaeth y prifysgolion lleol. Pa gymorth pellach all Llywodraeth Cymru ei roi i'r sector prifysgolion i ddatblygu rhagor o swyddi â chyflogau uchel yn Abertawe, ac a oes gan y Prif Weinidog unrhyw sylwadau ar rybudd Prifysgol Abertawe am effaith methiant Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad yn Horizon Ewrop? Pa effaith y mae hyn yn ei chael ar allu prifysgolion Cymru i gyfrannu at ddatblygiad economaidd lleol?
Llywydd, diolch i Mike Hedges. Roedd yn braf iawn bod yn Abertawe gydag ef ddechrau'r mis hwn, a chyfle i roi ar gof a chadw unwaith eto: llongyfarchiadau i Matt Warren, a sefydlodd Veeqo lai na 10 mlynedd yn ôl, ac sydd wedi ei wneud yn llwyddiant mor eithriadol. Yn ei gyfraniad yn y seremoni honno, canolbwyntiodd ar y manteision ansawdd bywyd a ddaw o fyw yn ardal Abertawe, ansawdd y gweithlu yr oedd wedi gallu ei recriwtio—yn enwedig lefel y sgiliau a ddatblygwyd gan bobl ifanc mewn prifysgolion yma yng Nghymru—a chanolbwyntiodd ar ansawdd y seilwaith sydd ar gael erbyn hyn yn y rhan honno o Abertawe. Ac mae'n hwb gwirioneddol i sector technoleg cynyddol y rhanbarth ein bod ni wedi gweld cymaint o lwyddiant mewn cwmni sydd bellach yn gweithredu ar y raddfa fyd-eang honno.
O ran ail ran cwestiwn Mike Hedges, nid oes amheuaeth bod ein prifysgolion yn wynebu cyfres o flaenwyntoedd pan ddaw hi'n fater o allu buddsoddi yn y mathau o fentrau newydd a datblygiad sgiliau a arweiniodd at lwyddiant Veeqo yn Abertawe. Rydym ni'n gwybod na fyddwn ni'n gallu rhoi y £135 miliwn i Brifysgol Abertawe, yn lle, gyda'r amcangyfrif mwyaf ceidwadol, y buddion y maen nhw wedi eu cael o arian Ewropeaidd yn y fframwaith aml-flynyddol saith mlynedd diwethaf. Mae Llywodraeth y DU wedi methu'n llwyr â rhoi'r sicrwydd absoliwt a gynigwyd i ni, na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd, ac nid yn unig nad yw'r swm o arian ar gael i Gymru, ond nid yw'r bobl a wnaeth elwa arno yn gallu elwa arno chwaith. Felly, er, yng Nghymru, bod Llywodraeth Cymru wedi gallu elwa ar hynny—dyna sut datblygwyd Busnes Cymru; dyna sut mae Banc Datblygu Cymru wedi cael rhywfaint o'i lwyddiant—nid yw ein prifysgolion, ein busnesau preifat na'r trydydd sector yn gallu manteisio o gwbl ar y cyllid is sydd ar gael i ni.
Ac ar yr un pryd, mae Prifysgol Abertawe yn arbennig wedi tynnu sylw at fethiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ynghylch cymryd rhan yn fersiwn nesaf rhaglen Horizon. Cafodd Gymru gyfran uwch o lawer o gyllid o Horizon na fyddai wedi bod gennym yr hawl iddo ar sail cyfran y boblogaeth, ac fe wnaeth Prifysgol Abertawe ei hun sicrhau €18 miliwn o gyllid UE gyda 51 o wahanol brosiectau Horizon dros gyfnod 2014 i 2020. Nawr does dim byd. Nid oes gennym ni gysylltiad â Horizon ac nid oes gennym ni unrhyw sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynghylch unrhyw raglen olynol cynllun B, a does dim rhyfedd bod y brifysgol wedi datgan y rhybudd sydd ganddi am ddiswyddiadau a chwtogi yn yr union feysydd hynny lle mae datblygiad Veeqo yn dangos sut y gellir creu llwyddiant.