2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:46, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y gwasanaeth tân os gwelwch yn dda, Trefnydd? Fel llawer a welodd adroddiad ITN ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru neithiwr, roeddwn i wedi dychryn. Ni ddylai fod unrhyw le i gasineb at fenywod o fewn y gweithle, ond mae hyn yn arbennig o wir gyda gwasanaeth cyhoeddus fel y frigâd dân. Roeddwn i'n hynod siomedig i ddarganfod bod yr ymddygiad yma wedi'i ganfod yn y gwasanaeth tân ac nad oes camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â hwn. Rwy'n falch bod prif swyddog tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, wedi cyhoeddi adolygiad i'w diwylliant, prosesau disgyblu ac achosion hanesyddol. Rwy'n awyddus nawr i wybod, drwy ddatganiad, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o'r sefyllfa a sut maen nhw'n bwriadu gweithredu er mwyn cefnogi'r prosesau i wneud gwasanaeth tân de Cymru yn lle diogel a chroesawgar i fenywod.