Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym ni'n condemnio ymddygiad fel hyn yn gryf. Nid oes unrhyw le iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac unman arall o ran hynny. Mae'n bwysig iawn eu bod yn wynebu'r sancsiynau llymaf posibl gan reolwyr. Roeddwn i'n falch iawn o weld Huw Jakeway yn cyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore yma wedi cyfarfod â chadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.