2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:42, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr profion bomiau atomig, os gwelwch yn dda, gan fod 2022 yn nodi'r jiwbilî plwtoniwm, 70 mlynedd ers y profion bom atomig cyntaf yn y DU. Ers hynny, mae ugeiniau o'r bobl a gymerodd ran yn y profion hynny—cyn-filwyr, gwyddonwyr, pobl frodorol a'u teuluoedd—wedi dioddef yn anfesuradwy. Nid oes yr un o'r bobl hynny wedi cael y gydnabyddiaeth gywir am eu haberthau. Roedd llawer ohonyn nhw'n dod o Gymru. Mae LABRATS International yn galw am ymddiheuriad cenedlaethol, medal i gydnabod gwasanaeth ac aberth y cyn-filwyr hyn, cefnogaeth ariannol i gyn-filwyr a theuluoedd, rhaglen addysg ar y profion a'u heffeithiau, ac ymchwil i ddisgynyddion. Mae rhai o'r pethau hyn o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Felly, a wnewch chi weithio gyda LABRATS a sefydliadau eraill i helpu i gyflawni'r nodau hyn? A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar ba gamau yr ydych chi'n eu cymryd i gynorthwyo'r bobl hyn? Diolch.